7. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:04, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn y ddadl ar ansawdd aer ar 5 Rhagfyr, amlinellais ystod o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau i ansawdd yr aer yng Nghymru. Yn ystod y ddadl hon, eglurais y camau hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau a'n hamgylchedd.

Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn gweithredu'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig, gan helpu i fynd i'r afael â'r her ansawdd aer drwy ymestyn a chryfhau ein rheolaethau presennol ar allyriadau sylweddau llygru i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi. Defnyddir gweithfeydd hylosgi canolig â chapasiti rhwng 1MW thermol a 50MW thermol ar gyfer amrywiaeth eang o weithrediadau. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchu gwres ar gyfer adeiladau mawr megis swyddfeydd, gwestai, ysbytai ac ysgolion, a darparu gwres a stêm ar gyfer prosesau diwydiannol a chynhyrchu trydan.

Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn rhoi grym i derfynau uchaf y Gyfarwyddeb ar allyriadau nitradau ocsid, sylffwr deuocsid a gronynnau i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi canolig. Mae'r rhain yn llygryddion atmosfferig allweddol. Mae gweithfeydd â capasiti thermol dros 20MW eisoes yn destun rheolaethau amgylcheddol o dan ein cyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, gan gynnwys y gofyniad bod y technegau gorau sydd ar gael yn cael eu rhoi ar waith i atal llygredd ac na achosir llygredd sylweddol. Mae'r rheolaethau hyn yn parhau i fod ar waith ochr yn ochr â'r gofynion a weithredir o'r newydd drwy'r Gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig.

Bydd y rheoliadau hefyd yn cyflwyno rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu i fynd i'r afael â llygredd o weithfeydd hylosgi sy'n is na 50MW thermol a ddefnyddir i gynhyrchu trydan. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld twf sylweddol yn niferoedd y gweithfeydd hylosgi sy'n llosgi diesel i gynhyrchu trydan yn ystod cyfnodau byr o alw uchel. Gall y gweithfeydd hyn gynhyrchu dros chwe gwaith mwy o nitrogenau ocsid na'r dewisiadau amgen sy'n llosgi nwy. Mae angen  y rheolaethau a gaiff eu cyflwyno gan y rheoliadau er mwyn sicrhau nad yw'r gweithfeydd cynhyrchu trydan hyn yn effeithio ar ansawdd yr aer ac iechyd y cyhoedd.

Bydd y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gweithfeydd sy'n weithredol gael trwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y trwyddedau yn nodi'r gofynion gweithredu manwl sydd eu hangen i sicrhau bod ansawdd yr aer yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys gwerthoedd terfyn ar gyfer allyriadau llygryddion allweddol, gofynion monitro a rhwymedigaethau adrodd. Bydd y gofynion hyn yn cael eu gweinyddu a'u gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru am oes pob trwydded, ac ysgwyddir costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno trwydded a gwirio cydymffurfiad gan y gweithredwr o dan y darpariaethau adennill costau presennol ar gyfer trwyddedu amgylcheddol.

Gofynnaf am eich cefnogaeth heddiw ar gyfer gweithredu Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Bydd rhwymedigaethau'r gyfarwyddeb, a gyflwynir gan y rheoliadau hyn, ynghyd â'r rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu ar weithfeydd sy'n cynhyrchu trydan, yn gwneud cyfraniad pwysig at wella ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd yn unol â nodau llesiant Llywodraeth Cymru a'r strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.