– Senedd Cymru am 5:03 pm ar 23 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf yw’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Rydw i'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Diolch, Llywydd. Edrychaf ymlaen at drafod y rheoliadau hyn, a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig i wella ansawdd aer a lleihau llygredd diwydiannol.
Yn y ddadl ar ansawdd aer ar 5 Rhagfyr, amlinellais ystod o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau i ansawdd yr aer yng Nghymru. Yn ystod y ddadl hon, eglurais y camau hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau a'n hamgylchedd.
Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn gweithredu'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig, gan helpu i fynd i'r afael â'r her ansawdd aer drwy ymestyn a chryfhau ein rheolaethau presennol ar allyriadau sylweddau llygru i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi. Defnyddir gweithfeydd hylosgi canolig â chapasiti rhwng 1MW thermol a 50MW thermol ar gyfer amrywiaeth eang o weithrediadau. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchu gwres ar gyfer adeiladau mawr megis swyddfeydd, gwestai, ysbytai ac ysgolion, a darparu gwres a stêm ar gyfer prosesau diwydiannol a chynhyrchu trydan.
Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn rhoi grym i derfynau uchaf y Gyfarwyddeb ar allyriadau nitradau ocsid, sylffwr deuocsid a gronynnau i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi canolig. Mae'r rhain yn llygryddion atmosfferig allweddol. Mae gweithfeydd â capasiti thermol dros 20MW eisoes yn destun rheolaethau amgylcheddol o dan ein cyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, gan gynnwys y gofyniad bod y technegau gorau sydd ar gael yn cael eu rhoi ar waith i atal llygredd ac na achosir llygredd sylweddol. Mae'r rheolaethau hyn yn parhau i fod ar waith ochr yn ochr â'r gofynion a weithredir o'r newydd drwy'r Gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig.
Bydd y rheoliadau hefyd yn cyflwyno rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu i fynd i'r afael â llygredd o weithfeydd hylosgi sy'n is na 50MW thermol a ddefnyddir i gynhyrchu trydan. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld twf sylweddol yn niferoedd y gweithfeydd hylosgi sy'n llosgi diesel i gynhyrchu trydan yn ystod cyfnodau byr o alw uchel. Gall y gweithfeydd hyn gynhyrchu dros chwe gwaith mwy o nitrogenau ocsid na'r dewisiadau amgen sy'n llosgi nwy. Mae angen y rheolaethau a gaiff eu cyflwyno gan y rheoliadau er mwyn sicrhau nad yw'r gweithfeydd cynhyrchu trydan hyn yn effeithio ar ansawdd yr aer ac iechyd y cyhoedd.
Bydd y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gweithfeydd sy'n weithredol gael trwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y trwyddedau yn nodi'r gofynion gweithredu manwl sydd eu hangen i sicrhau bod ansawdd yr aer yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys gwerthoedd terfyn ar gyfer allyriadau llygryddion allweddol, gofynion monitro a rhwymedigaethau adrodd. Bydd y gofynion hyn yn cael eu gweinyddu a'u gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru am oes pob trwydded, ac ysgwyddir costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno trwydded a gwirio cydymffurfiad gan y gweithredwr o dan y darpariaethau adennill costau presennol ar gyfer trwyddedu amgylcheddol.
Gofynnaf am eich cefnogaeth heddiw ar gyfer gweithredu Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Bydd rhwymedigaethau'r gyfarwyddeb, a gyflwynir gan y rheoliadau hyn, ynghyd â'r rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu ar weithfeydd sy'n cynhyrchu trydan, yn gwneud cyfraniad pwysig at wella ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd yn unol â nodau llesiant Llywodraeth Cymru a'r strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.
Diolch i'r Gweinidog am egluro'r angen ar gyfer y rheoliadau hyn. Rydym ni yn cefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud, a chyfres o reoliadau ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr yw'r rhain, wrth gwrs, mewn ymateb i gyfarwyddeb yr UE.
Mae gennyf i un neu ddau gwestiwn, os caf i. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, mewn gwirionedd, er ein bod ni'n croesawu hyn, bod y rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn cael eu trosi yn hwyr, a'r tu hwnt i'r amserlen a nodwyd gan yr UE, sydd, yn fy marn i, yn sefyllfa anffodus, a hoffwn i ddeall sut y digwyddodd hyn? Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw eu bod, fel y deallaf y rheoliadau hyn, bellach yn cynnwys rhai o weithfeydd pŵer y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw, nad oedden nhw wedi'u cynnwys o dan gyfarwyddebau fel hyn yn y gorffennol. Mae hwn yn gam pwysig iawn o ran cynnal ansawdd aer da a gwell ansawdd aer yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod y goblygiadau i iechyd y cyhoedd oherwydd yr ansawdd aer gwael sydd gennym mewn llawer o fannau yng Nghymru.
Mae'r broses drwyddedu, fodd bynnag, o'r hyn rwy'n ei ddeall, hefyd yn caniatáu i'r gweithfeydd hŷn, felly, mewn gwirionedd, y rhai sy'n llygru fwyaf, gael mwy o amser i wella'n ddigonol. A hoffwn i ddeall sut yr ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r wybodaeth orau yr ydym ni'n ei chael a gwaith gorau Cyfoeth Naturiol Cymru i geisio cyflymu'r broses honno mewn gwirionedd. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, bron fel y dylem ni ei wneud y ffordd arall, yn hytrach na rhoi mwy o amser i'r gweithfeydd hŷn. Efallai fod materion yn y fan yma yn ymwneud â chostau ac effeithiolrwydd, ond dyma'r rhai sydd mewn gwirionedd yn cyfrannu at yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Hannah Blythyn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad yn y ddadl hon? Roedd eich cwestiwn cyntaf yn ymwneud â throsi'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig yn hwyr. Mae'r oedi o ran trosi wedi ei achosi gan yr oedi wrth gwblhau elfennau o'r rheoliadau sy'n ymwneud â chydadwaith â rheolaethau amgylcheddol diwydiannol presennol. Ar ôl i'r rheoliadau gael eu cwblhau roedd yn rhaid iddyn nhw fynd drwy gyfnod tri mis o hysbysu i'r Comisiwn Ewropeaidd, ac nid oedd yn bosibl symud ymlaen â'r rheoliadau yn y cyfnod hwnnw. Daeth y cyfnod hysbysu i ben ar 8 Rhagfyr, a chyflwynwyd y rheoliadau gerbron y Cynulliad y diwrnod gwaith canlynol gennym ni, sef 11 Rhagfyr. Cafodd y rheoliadau eu cyflwyno yn y Senedd ar yr un diwrnod. Rwy'n siŵr na fydd yr oedi o ran y trosi yn effeithio ar gyflwyno gofynion y gyfarwyddeb yn brydlon, ac mae'n rhaid cymhwyso'r cyntaf ohonyn nhw erbyn 20 Rhagfyr eleni.
O ran y dull cyflwyno graddol ar gyfer rhai o'r gweithfeydd hŷn, sef nifer fawr o'r gweithfeydd hylosgi hyn yr effeithir arnynt—hyd at 30,000 yng Nghymru a Lloegr—mewn llawer o achosion ni fydd gweithredwyr y gweithfeydd hyn wedi dod ar draws y gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, felly mae angen codi ymwybyddiaeth a rhoi amser i'r trwyddedu hwnnw ddigwydd. Bydd y cyfnod cyflwyno graddol, gobeithir, hefyd yn helpu i annog cwmnïau i fuddsoddi mewn technoleg newydd, lanach yn hytrach nag ôl-ffitio hen weithfeydd gyda chyfarpar lleihau llygredd.
Diolch unwaith eto am eich cyfraniad. Mae hwn yn welliant technegol iawn yn y ddadl heddiw, ond mae'n un pwysig gan ei fod yn ein helpu ni i weithio tuag at ein huchelgeisiau o fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.