Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 23 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae hi'n fraint ac yn bleser arbennig i mi i agor trafodaeth ar fater o fewn fy nghyfrifoldebau diwylliannol, ac wrth wneud hynny, defnyddio amser y Llywodraeth yn y Cynulliad i ddathlu datblygiad ein sefydliadau diwylliannol pwysig, a hefyd i roi cyfle i Aelodau Cynulliad ac i'r cyhoedd, yn dilyn cyhoeddi yr adroddiad, i drafod ei gynnwys ymhellach, a helpu ni yn y broses, fel Llywodraeth, o gydweithio â'r amgueddfa yn cryfhau ein sefydliadau cenedlaethol.
Mae sefydliadau cenedlaethol sy'n ymwneud â threftadaeth a hanes yn sefydliadau ble mae, heb siarad yn rhy genedlaetholgar na rhamantaidd, curiad y galon i'w glywed, oherwydd y mae'r sefydliadau yma yn cynnig profiad arbennig i ymwelwyr â Chymru, ac yn cynnig ymdeimlad o falchder mewn lle i gymunedau Cymru. Maen nhw'n sefydliadau sydd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i groesawu newydd-ddyfodiaid i esbonio hanes a dyheadau pobl Cymru dros y canrifoedd, a hefyd i gynnig ar yr un pryd brofiadau o hanes a thystiolaeth i bawb o bob cenhedlaeth.
Mae gan Amgueddfa Cymru, fel y gwyddoch chi, saith o leoliadau ledled Cymru, ac mae'r sefydliadau yma yn rhan allweddol o'r gwaith o ddarparu profiadau diwylliannol ar garreg drws pobl bron, fel petai, a'r gwaith o ddarparu profiadau sydd ar yr un pryd yn gofalu am dreftadaeth. Ar wahân i bedwar ymweliad â Llandudno, y lle rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o amser ynddo fo o ran un lleoliad ers imi gael y swydd yma yw Sain Ffagan, ac mae'r cyfle i ailymweld â'r lle yna yn weddol aml yn ddiweddar wedi helpu imi sylweddoli gymaint o ddatblygiad ac ailddatblygiad sydd wedi ei wneud, gan gefnogi buddsoddiad o dros £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Fe ges i argraff gref iawn o'r cyfleusterau newydd yna, ac mae'n amlwg bod yna hanes hir o waith caled a chwbl ymroddedig gan bawb o'r uned adeiladau hanesyddol grefftus iawn sydd yno, drwodd i'r cyfarwyddwr cyffredinol a'r holl staff sydd mor frwd.
Ond, wrth gwrs, fe fu yna yn hanes y sefydliad yna, fel ym mhob sefydliad, broblemau ac mae yna o hyd heriadau. Mewn ymateb i heriadau ac ar gais gan Amgueddfa Cymru ei hun, comisiynodd fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi a Seilwaith, Ken Skates, yr adolygiad annibynnol yma rydym yn ei drafod heddiw yn 2016. A'r awydd oedd i geisio darganfod ffordd y gallai Llywodraeth Cymru a'r amgueddfa gydweithio yn fwy effeithiol.
Rwy'n ddiolchgar i Dr Simon Thurley—rwy'n gyfarwydd â'i waith o yn English Heritage ers blynyddoedd. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am y cyfrifoldeb gymerodd o am yr adolygiad, a'r modd darllenadwy y cafodd o ei ysgrifennu—yn wir, anarferol o ddarllenadwy yn fy mhrofiad i o ddarllen adroddiadau cyhoeddus, hyd yn oed ym maes diwylliant. Mae'r adroddiad wedi llwyddo i bwyso a mesur y cryfderau a'r gwendidau, i nodi'r problemau, i ystyried cyfleoedd a chyflwyno syniadau i ni am sut y gall yr amgueddfa symud ymlaen mewn nifer o'r meysydd yma.
Fel y gwelwch chi o ddarllen yr adroddiad, mae yna 17 o argymhellion. Nid wyf am drafod pob un yn unigol, ond mi groesawaf sylwadau fan hyn ar lafar neu yn uniongyrchol eto.