8. Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:15, 23 Ionawr 2018

Rydw i’n credu bod yna dri phrif faes o argymhellion ac fe geisiaf i gyfeirio at y rhain yn eu tro. Maen nhw’n cynnwys yr angen i'r amgueddfa greu mwy o incwm er mwyn gwella cynaliadwyedd a lleihau’r ddibyniaeth sylweddol iawn ar arian cyhoeddus, datblygu a gwella cysylltiadau, yn enwedig gyda Llywodraeth Cymru, a datblygu’r cynnig dehongli yn yr amgueddfeydd ar draws y sefydliad cyfan.

Mae sawl argymhelliad yn nodi bod angen i Amgueddfa Cymru weithio’n wahanol er mwyn manteisio’n llawn ar ei photensial i greu incwm. Rydw i’n deall nad ydy’n hawdd i sefydliad mawr a chymhleth newid ei fodel busnes, ond mae'n bwysig fod hynny yn digwydd, ac, yn y trafodaethau sylweddol rydw i wedi'u cael yn barod efo Amgueddfa Cymru, mae'n amlwg fod yna barodrwydd i dderbyn a chofleidio'r angen am newid. 

Yn ogystal â hynny, mae’r amgueddfa bellach yn rhan o bartneriaeth Cymru Hanesyddol. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi y cydweithrediad rhwng gwahanol agweddau o waith treftadaeth, yn arbennig gwaith Cadw, sydd yn parhau—fel y byddwch chi'n cofio o ddatganiad blaenorol y gwnes i yma—yn rhan o'r Llywodraeth o hyd, er gyda mwy o annibyniaeth ar gyfer ei waith a'i reolaeth. Felly, rydw i'n edrych ymlaen at weld datblygiad pellach yn y bartneriaeth a chydweithio closiach rhwng y sefydliadau ym mhartneriaeth Cymru Hanesyddol. Rydw i hefyd yn gwerthfawrogi parodrwydd yr undebau i gymryd rhan yn y trafodaethau, a'r sicrwydd y medraf i ei roi yma'n gyhoeddus bod safbwyntiau staff yn rhan hanfodol o’r broses o wneud penderfyniadau. 

Mae gan Amgueddfa Cymru gyfle da i ystyried y gwelliant rhagorol a wnaed gan Cadw o ran creu incwm, ac i ddysgu gwersi perthnasol. Er bod angen talu i gael mynediad i lawer o safleoedd Cadw, mae'r adroddiad yma'n cyfeirio at sefydliadau cenedlaethol eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig mynediad am ddim i’w horielau parhaol ond hefyd yn codi tâl i weld arddangosfeydd arbennig a chael gwasanaethau ychwanegol. Felly, fe garwn i bwysleisio fod Amgueddfa Cymru yn ystyried cyfleoedd eraill hefyd, gan gynnwys gwasanaethau parcio ceir a bysiau, gwella’r cynnig arlwyo, edrych ar yr oriau agor ac ystyried a fyddai’n bosibl i rai safleoedd agor ar adegau penodol.

Mae'r argymhelliad sydd wedi cael ei wneud yn yr adroddiad yma hefyd, yn allweddol iawn, yn argymell penodi cyfarwyddwr masnachol profiadol. Mae’r Amgueddfa yn ei thrafodaethau, yn sicr efo fi, wedi derbyn y syniad yna yn llawen, oherwydd y byddai'r sgiliau a fyddai'n cael eu cynnig gan benodiad fel yna yn hyrwyddo newid a gwelliant ar draws y sefydliad.

A gaf i gyfeirio yma eto at lwyddiant arbennig Sain Ffagan? Mae'r amgueddfa wedi codi dros £30 miliwn i roi’r prosiectau newydd yn Sain Ffagan ar waith. Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid yma wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, ond mae gweddill yr arian—sy’n swm sylweddol—wedi’i godi diolch i waith dygn ymddiriedolwyr a staff yr amgueddfa. Mae’r arian yma wedi dod o ffynonellau amrywiol, sy’n dangos bod yr amgueddfa yn gallu dod o hyd i gyfleoedd a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau. Er bod y broses hon wedi llwyddo, mae’n bwysig fy mod i'n cydnabod yma heddiw ei bod hi wedi cymryd cryn amser ac ymdrech a fy mod i'n gwerthfawrogi hynny.

Fe fydd angen sicrhau cydbwysedd o hyd rhwng ein polisi hynod lwyddiannus, sydd wedi’i hen ymsefydlu, o gynnig mynediad am ddim a’r angen i fod yn fwy masnachol. Rydw i'n awyddus i glywed barn Aelodau ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau'r cydbwysedd yna. 

Mae'r ail gyfres o argymhellion y cyfeiriais i atyn nhw gan Dr Simon Thurley yn ymwneud â chysylltiadau, yn enwedig y cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru â'r amgueddfa. Mae'r adroddiad yn codi pryderon ynglŷn â’r hyn y mae’n ei ystyried yn lefel ddiangen o reolaeth. Rydw i'n deall y pryderon yna, ac, fel un sydd wedi ymwneud â nifer o sefydliadau cyhoeddus dros y blynyddoedd, rydw i’n meddwl ei bod hi yn bwysig ar yr un pryd i gael prosesau craffu llymach ar sefydliadau ac ar wariant, yn ogystal ag i sicrhau bod modd, wrth wneud hynny hefyd, edrych ar sefydliadau eraill o fewn y Deyrnas Unedig sydd yn fodlon manteisio ar bosibiliadau o greu incwm ychwanegol. Nid oes gwrthwynebiad mewn egwyddor i’r incwm ychwanegol yma gael ei greu, cyhyd â bod hynny’n gallu eistedd gydag egwyddor sylfaenol mynediad di-dâl yn gyffredinol i’r sefydliadau.

Rydw i’n gobeithio felly y bydd yr argymhellion yma yn cael eu hystyried ymhellach ac rydw i’n edrych ymlaen at y drafodaeth lawnach ar hynny yn y fan yma. Ond fe garwn i ddweud un peth cyn i mi gloi'r sylwadau agoriadol yma. Mae yna gyfeiriadau wedi cael eu gwneud yn yr adroddiad, a oedd yn ddarllen poenus iawn i mi, ynglŷn â thorri lawr mewn perthynas rhwng timau uwch reoli a’r undebau’n cynrychioli'r gweithlu. Yn amlwg, nid yw hwn yn sefyllfa iach i unrhyw gorff cyhoeddus nag yn wir i gwmni masnachol na phartneriaeth fod ynddi hi. Ond nid ydw i am wneud unrhyw sylwadau penodol ar faterion rheolaeth yma heddiw. Ni fyddai hynny’n briodol. Rydw i’n parchu’r egwyddor hyd braich mewn sefydliadau diwylliannol ac rydw i’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gadw’r pellter hwnnw er mwyn gallu bod yn effeithiol yn y gwaith o graffu ar gyrff cyhoeddus yr ydym ni’n eu cyllido. Rwy’n annog cydweithrediad, gan gynnwys gwasanaethau cyflafareddi gan Acas ac eraill os oes angen, a hefyd yn y sefyllfa yna gobeithio y gallwn ni hyderu na fyddwn ni’n syrthio i hanes eto a fydd yn ailadrodd anghytundeb a methu cyd-ddeall.

Mae’r trydydd maes yr ydw i wedi cyfeirio ato yn y sylwadau agoriadol yma yn cyfleu’n arbennig y pwysigrwydd o ddatblygu cynnig arbennig yr amgueddfeydd. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y sylwadau manwl a gofalus sydd wedi cael eu gwneud ar yr holl leoliadau, ond yn arbennig ar Amgueddfa Lechi Cymru, amgueddfa sydd yn annwyl iawn yn fy nhyb i, wrth gwrs, oherwydd y cysylltiad teuluol â’r diwydiant, a hefyd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, y ces i’r pleser pur o ymweld â hi yng Nghaerllion ddoe. Eto, mae enghraifft Sain Ffagan o’m mlaen i, ac mae hynny’n dangos sut y gall yr amgueddfeydd llai yma fanteisio ar brofiad Sain Ffagan a phrofiad Cadw i ddatblygu eu cynnig, gan ddangos yn glir nad corff sydd yn aros yn llonydd yw amgueddfa ond corff sydd yn parhau i dyfu fel y mae’r ddealltwriaeth o hanes y genedl yn tyfu.

Fel rydw i’n dweud, rydw i wedi cyfarfod swyddogion yr amgueddfa sawl tro i drafod yr adroddiad yma a’r argymhellion, ac rwy’n parhau i edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw, ac rydw i’n awyddus prynhawn yma, ac ar ôl heddiw hefyd, i glywed eich cyfraniad chi fel y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ein sefydliadau cenedlaethol yn y broses o’i diwygio nhw. Diolch yn fawr i chi am eich gwrandawiad.