8. Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:23, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n adolygiad eithaf bachog, rwy'n credu, er bod angen ystyried ei argymhellion, rwy'n credu, ochr yn ochr â chasgliadau'r grŵp dan gadeiryddiaeth Justin Albert ynglŷn â ffurf bosibl Cymru Hanesyddol ac, wrth gwrs, eich penderfyniad diweddar y byddai Cadw yn parhau yn gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth. Hoffwn siarad yn fyr iawn am y rhan honno o'r adroddiad sy'n cyfeirio at yr anghydfod diwydiannol a effeithiodd ar weithgareddau yn ystod hanes diweddar yr amgueddfa. Nid wyf eisiau pendroni'n ormodol yn ei gylch, ond rwy'n tueddu i gytuno nad yw hwn yn fater i'r Llywodraeth ymyrryd yn uniongyrchol ag ef, o ran cysylltiadau diwydiannol corff anllywodraethol. Ond credaf ei bod hi'n briodol i'r ddwy ochr hysbysu'r Aelodau Cynulliad o'u barn, gan fod pawb sy'n ymwneud â hyn yn etholwr i rywun, ac fe allwn ni, eu cynrychiolwyr, ddwyn sylw at y safbwyntiau hynny i'r graddau y maen nhw'n dwyn pwysau. Ond nid yw hynny yn gyfystyr â'r Weithrediaeth yn ymyrryd a dylanwadu arnynt.

Ni allaf ddweud mewn gwirionedd a yw Dr Thurley wedi cynrychioli'r berthynas rhwng staff, rheolwyr a hyd yn oed y Llywodraeth yn ddigonol neu yn gywir. Ond ni chredaf ei bod yn ddewis rhwng naill ai yr angen i foderneiddio'r amgueddfa genedlaethol mewn modd realistig neu roi'r gydnabyddiaeth briodol i arbenigedd, ymrwymiad a hyblygrwydd staff ar y llall. Mae'r ffaith bod hyn wedi codi yn enghraifft o thema sydd wedi deillio o'r trafodaethau am yr amgueddfa yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. A'r mater hwnnw yw swyddogaeth y Llywodraeth a'i pherthynas ag annibyniaeth yr amgueddfa.

O ran manylder y craffu diweddar, nid yn lleiaf yn yr adroddiad hwn, roedd yn rhaid i'r amgueddfa wynebu beirniadaeth am ei gallu i reoli pryderon y gweithlu yn briodol, ac, wrth gwrs, reoli'r newidiadau yn ei hamgylchiadau ariannol a'r cymorth ariannol y mae'n ei gael. Nawr, o'm rhan i fy hun, mae a wnelo hynny â bylchau mewn sgiliau rheoli y gellir ac y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw, ac nid yw'n rheswm i'r Llywodraeth ymyrryd yn llechwraidd ag annibynniaeth yr amgueddfa.

Roedd y posibilrwydd hwnnw ar y gorwel o gyfuno swyddogaethau masnachol gyda Llywodraeth Cymru yn brosiect llwyddiannus iawn o ran bod yn gyfrwng i'r amgueddfa allu gweld a dechrau cynllunio i oresgyn ei diffygion, yn enwedig yng nghyswllt ei gweithgareddau masnachol, a manteisio ar y gweithgareddau masnachol posib hynny sydd wrth wraidd adolygiad Thurley, wedi'r cyfan. Nawr, does gennyf ddim problem o gwbl gyda'r amgueddfa yn cydweithio gyda Cadw i wella cyfleoedd masnachol, neu, yn wir, unrhyw gyfleoedd eraill, ond dim ond un berthynas yw honno a fydd yn gwella ei rhagolygon.

Ac rwyf eisiau bod yn glir, gan ein bod wedi cael cadarnhad y bydd Cadw yn parhau'n gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth, na allaf weld fy mhlaid yn cefnogi unrhyw integreiddio agosach rhwng y ddau gorff. Er y dylai pob un gydweithio er budd y naill a'r llall—. Mewn gwirionedd, mae Cadw a Croeso Cymru wedi cael eu crybwyll yn yr adolygiad hwn ac yn adroddiad Justin Albert. Un peth yw hynny, ond rwy'n wirioneddol gredu bod angen i'r Llywodraeth gadw hyd braich oddi wrth unrhyw beth sy'n rhoi'r arlliw lleiaf o ymyrraeth weithredol, neu hyd yn oed o'r elfennau hynny o strategaeth yr amgueddfa nad ydyn nhw'n berthnasol i'r llythyr cylch gwaith neu i'r ffrydiau gwaith ar y cyd.

Roedd yr adolygiad yn afieithus iawn ynglŷn â chynnig presennol yr amgueddfa a hyd yn oed yn fwy afieithus ynghylch y cynnig posib, a chredaf y byddai'n anodd anghytuno â hynny. Ers ei deffroad sydyn, mae'r amgueddfa eisoes wedi codi £10.3 miliwn drwy incwm a enillir—bron ddwywaith gymaint ag unrhyw sefydliad diwylliannol cenedlaethol arall—a thorri'r ddibyniaeth ar incwm Llywodraeth i ddwy ran o dair mewn dim ond blwyddyn, felly mae modd iddi wneud hynny. Ac mae hi bellach yn chwilio'n eiddgar am gyfarwyddwr masnachol, er efallai yr hoffai roi ystyriaeth eto i arbenigedd ynglŷn â chysylltiadau staff.

Gweinidog, rwyf bob amser braidd yn amheus ynghylch gwneud cymariaethau â sefydliadau yn Llundain pan rydym yn sôn am ariannu ein cynigion o ran ein diwylliant a'n treftadaeth. Ond gobeithio y bydd y cyfarwyddwr masnachol newydd yn ystyried hyd yn oed y syniadau mwyaf dadleuol a gyflwynwyd gan Thurley, dim ond i gnoi cil drostyn nhw ac i ystyried mewn difrif a oes unrhyw beth y gall Cymru ei ddysgu oddi wrthynt. Byddwn yn dweud, o du'r Ceidwadwyr Cymreig, ein bod ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol o ganiatáu mynediad am ddim i gasgliadau craidd, ond rydym hefyd yn cefnogi'r egwyddor o godi tâl am weld arddangosfeydd neilltuol os yw'r amgueddfa yn dewis gwneud hynny, gan fod tystiolaeth yn dangos bod y ddwy ffordd yn gweithio i ddenu ymwelwyr, a chredaf y gellir goresgyn rhai agweddau ar hynny drwy gael hyblygrwydd mewn cynlluniau codi tâl, er enghraifft. Ond dylai'r penderfyniad i godi tâl fod yn un i'r amgueddfa ac nid i'r Llywodraeth, ac ni ddylai'r naill gorff na'r llall ddefnyddio hynny i ddadlau am doriadau neu am arian ychwanegol o'r pwrs cyhoeddus.

Gweinidog, rydych wedi dweud llawer iawn ynglŷn â'r hyn sy'n drawiadol am yr amgueddfa eisoes. Roeddwn i eisiau gwneud sylw ynghylch rhywbeth y dywedodd Dr Thurley am newidiadau i rai o'r safleoedd a lle y gellid gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i incwm posib yr amgueddfa, ond cydlyniad y stori, ac rwy'n credu bod honno'n stori y mae angen i'r amgueddfa benderfynu arni, ac nid y Llywodraeth, ac nid, yn wir, Thurley. Dyma pam mae annibyniaeth fasnachol yn hanfodol i'r amgueddfa a'i gallu i osod mwy o flaenoriaethau iddi hi ei hun. Nid yw hynny'n lleihau pwysigrwydd llythyr cylch gwaith y Llywodraeth a'i blaenoriaethau, ac, wrth gwrs, y cyllid, sy'n ddibynol, i raddau, ar fodloni'r blaenoriaethau hynny. Ond mae angen iddi fod yn rhydd i chwyddo ei chyllid y tu hwnt i'r berthynas â'r Llywodraeth heb y risg mai toriadau i gefnogaeth gyhoeddus yw'r prif reswm dros bennu blaenoriaethau. Diolch.