Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 23 Ionawr 2018.
Mae'n bleser gen i hefyd i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar adolygiad Thurley. Fel y mae Suzy wedi cyfeirio, wrth gwrs, mae hyn yn adeiladu ar adolygiadau blaenorol, ac, wrth gwrs, y hanes trwblus, braidd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Nawr, wrth gwrs, rydym ni yn falch iawn o amgueddfa Cymru. Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan siarter frenhinol nôl yn 1907. Hyrwyddo addysg y cyhoedd oedd bwriad y siarter ac mae’n wir i ddweud bod yr amgueddfa wedi cyflawni hynny, yn glodwiw, dros y blynyddoedd. Addysgu’r byd am Gymru ac addysgu’r Cymry am yr hen wlad oedd un o’r gosodiadau gwreiddiol o 1912. Hynny yw, addysgu’r byd am Gymru ac addysgu pobl Cymru am eu gwlad eu hunain. Mae pobl yn dal i ddarganfod pethau am eu gwlad eu hunain—pobl sydd wedi byw yma erioed yn dweud, 'Wel, jiw, I never knew that.' Dyna beth ydy pwysigrwydd ymweld â gwahanol safleoedd amgueddfa genedlaethol Cymru. Mae yna ffeithiau hanesyddol ac ati sy'n parhau i'ch synnu chi am yr hen wlad yma.
Yn y dyddiau du yna cyn datganoli, roedd yr amgueddfa genedlaethol yn biler o ysbrydoliaeth ac o Gymreictod cadarn ac yn oleuni llachar yn cynrychioli Cymru pan nad oedd strwythurau tebyg i fynegi ein cenedligrwydd, ein hanes a'n traddodiadau, a rhoi asgwrn cefn i bob cenedlaetholwr o fri. Dyna bwysigrwydd annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol: i ddweud stori Cymru heb gael ei handwyo gan unrhyw ddylanwadau o'r tu allan, ac felly'n annibynnol, gyfan gwbl, o unrhyw Lywodraeth. Fel rydym ni wedi clywed, rydym ni wedi cael yr holl drafodaethau ynglŷn â Cymru Hanesyddol, gyda'r bwriad gwreiddiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet o geisio uno ein sefydliadau celfyddydol. Gwych o beth bod y syniad gwirion, hurt yna wedi mynd o'r agenda erbyn hyn, ond byddai cadarnhad nad oes bwriad i uno'n sefydliadau cenedlaethol celfyddydol yn arwydd clir, eto, fod Llywodraeth Cymru yn cymryd annibyniaeth y sector o ddifrif.
A throi at elfen arall, mae ariannu yn allweddol bwysig. Ers 2012, bu toriadau sylweddol yng nghyllid Amgueddfa Cymru o tua 11 y cant. Esgorodd hyn ar ddadl rhwng yr amgueddfa ac undebau—rydym ni wedi clywed amdani hi droeon—ynglŷn â chyflogau, tâl, telerau, a bu streicio. Bu yn amser anodd, du. Nid ydym ni eisio mynd nôl i fanna chwaith, ond, yn rhannol, roedd hynny achos toriadau ariannol. Rydym ni wedi clywed hefyd am y llwyddiannau masnachol diweddar gan yr amgueddfa a hefyd dylid cydnabod cytundeb rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru y bydd yr amgueddfa yn derbyn hwb ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Byddai'n dda derbyn sicrwydd gan y Gweinidog y prynhawn yma am sicrwydd ariannol i'r dyfodol ar ôl hynny i Amgueddfa Cymru.
Mae adroddiad Thurley yn taro nodyn cadarnhaol, fel mae Suzy wedi cyfeirio ato, gyda chanmoliaeth i safon yr amgueddfa genedlaethol ac ansawdd ac ymroddiad y gwaith a wneir gan y staff. Ond, wrth gwrs, mae yna rhai llefydd i wella hefyd, fel sydd wedi cael ei nodi, ac mae'r rheini hefyd yn yr adroddiad. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru yn un o amgueddfeydd mawr Prydain. Nid mater cul, Cymreig yn unig sydd gyda ni yn fan hyn, achos, ac rydw i'n dyfynnu o'r adroddiad,
'Yn ei chasgliadau, yn arbenigedd a gwybodaeth ei staff, yn ei chefnogaeth i ddatblygiad cymdeithasol a chymunedol ac yn ei chyfraniad i wybodaeth am hanes a diwylliant Cymru, mae wedi cyflawni’n eithriadol.'
'Clywch, clywch', ddywedwn i. Mae Amgueddfa Cymru yn parhau i ysbrydoli cenedlaetholwyr heddiw, ac yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Diolch yn fawr.