Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 24 Ionawr 2018.
Rydw i'n credu ei bod hi'n dal yn wir i ddweud bod y Ddeddf megis cysgod ar y gyllideb o ran y dylanwad mae wedi ei chael hyd yma. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod iawn, eleni, wrth ateb cwestiynau fel hyn—nid wyf eisiau ei demtio fe i restru, er bod gyda fe restr yn y fanna, mae'n siŵr, o brojectau sy'n cwrdd â phob un o amcanion y Ddeddf. Nid wyf i eisiau ei demtio fe i wneud hynny. Rydw i eisiau gofyn yn benodol, felly, gan fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi bod ynghlwm ag agweddau ar y gyllideb eleni, gan weithio'n benodol ar un pwnc, sef datgarboneiddio, a gan fod hefyd fwriad i gyflwyno cyllidebau carbon o dan Ddeddf arall, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 y flwyddyn nesaf, ym mha ffordd y gallwn ni ddisgwyl i gyllideb y flwyddyn nesaf adlewyrchu ffrwyth a phenderfyniad yn sgil y gwaith yna?