Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, mae beth mae Simon Thomas yn ei ddweud yn wir: mae yna restr hir o bethau gyda fi fan hyn rwy'n gallu ei defnyddio i ddangos yr effaith mae'r Ddeddf wedi ei chael ar hyn o bryd. Ond ar y pwnc mae e wedi ei godi, rydw i wedi cwrdd dros y pythefnos diwethaf â Lesley Griffiths i ddechrau'r broses o gynllunio sut ydym ni'n gallu, dros y flwyddyn sydd i ddod, ddod â'r broses o greu'r cyllideb gyda'i gilydd â'r broses o carbon budgeting, fel rydym ni'n ei alw fe. So, rydym ni wedi dechrau ar y broses. Mae'r gweision sifil yn gweithio ar y manylion. Mae cyfarfod gyda fi â'r comisiynydd wythnos nesaf i drafod yr un pwnc. Rydym ni'n awyddus fel Llywodraeth, ac rydw i'n gwybod bod Lesley Griffiths yn awyddus, i wneud mwy i uno'r ddwy broses ac i gael cyfle i roi adborth yn ôl i Aelodau'r Cynulliad ar sut ydym ni'n gallu dod â'r ddau beth gyda'i gilydd a chael mwy o effaith drwy wneud hynny.