Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 6 ac 8 gael eu grwpio gyda'i gilydd.

Ymhlith y newidiadau a ddaeth yn sgil cyllideb 2018-19, mae'r buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn ar gyfer digartrefedd dros ddwy flynedd, gan gynnwys £10 miliwn yn benodol ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn 2019-20, yn dangos effaith y Ddeddf, a'r pum ffordd o weithio a nodir ynddi, gan gynnwys cyfranogiad ac atal, ar ein proses o gynllunio'r gyllideb.