Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd Cabinet, tybed a ydych yn sylweddoli bod teimlad cyffredinol, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Cynulliad, y dylem fod yn fwy heriol o ran sut y cyflwynir y wybodaeth hon ac felly, o'r modd y caiff ei chraffu a'i chysylltu â'r nodau llesiant. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r hyn a ddywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth y Pwyllgor Cyllid—a dyfynnaf:
Yn hytrach na theimlo bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cael effaith ar y Gyllideb ddrafft, roedd yn agosach at fod yn debyg i gyllideb y llynedd, ond gydag ychydig eiriau ychwanegol.
Mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy deinamig, onid oes, o ran sut y defnyddiwn y Ddeddf hon, a nodi ble y mae wedi effeithio ar benderfyniadau a lle yr aethpwyd i mewn i'r gyllideb neu gynyddu'r gyllideb ac eitemau a dynnwyd o'r gyllideb. Dyna beth y mae'r Ddeddf hon yn ei fynnu mewn gwirionedd.