1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Ionawr 2018.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yng Nghymru?
Lywydd, bydd cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach parhaol yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2018. Mae cynlluniau ar gyfer datblygu ardrethi annomestig ymhellach yn cynnwys adolygu'r system apelio a mynd i'r afael â thwyll ac osgoi.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch iawn mewn gwirionedd o weld bod eich cyllideb yn cynnwys £1.3 miliwn i awdurdodau lleol ei ddefnyddio er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu i gefnogi ein busnesau lleol. Fodd bynnag, llwyddodd y cynllun tebyg yn 2014-15, a ddylai fod wedi darparu cymorth tebyg i'n busnesau, i gefnogi rhai busnesau mewn gwirionedd, ar gost o £2.765 miliwn, ac eto nid yw hwn ond yn 79 y cant o ddefnydd ar y pecyn cyffredinol o £3.5 miliwn. Dywedir mai'r rheswm am hyn oedd cymhlethdod y canllawiau i'r busnesau anghenus hyn ynghyd ag amserlenni tynn ar gyfer gwneud cais. Wrth symud ymlaen y flwyddyn hon, sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr amserlenni sy'n caniatáu i awdurdodau lleol a busnesau wneud cais am y grantiau hynny yn rhesymol fel y gallwn weld 100 y cant o ddefnydd o'r arian hwn, a ddyrannwyd yn benodol ar gyfer busnesau sydd mewn angen?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Lywydd. Roeddwn yn falch o allu darparu swm y gwn ei fod yn swm bach o arian wrth edrych ar y darlun mawr, £1.3 miliwn, i awdurdodau lleol gryfhau eu gallu i ddarparu rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau yn eu hardaloedd eu hunain. Y ffordd rwyf wedi ceisio ateb y cyfyng-gyngor y mae'r Aelod wedi'i grybwyll yw drwy sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn y modd disgresiynol hwnnw gyda'u gwybodaeth eu hunain am anghenion ac amgylchiadau lleol. Credaf fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa well i allu defnyddio'r swm hwnnw o arian sydd wedi'i dargedu'n fanwl i ymateb i fusnesau nad yw eu hamgylchiadau yn eu gwneud yn gymwys ar gyfer y cynlluniau mwyaf sydd gennym ym maes ardrethi annomestig, a thrwy beidio â chlymu'r arian wrth lawer o reolau a rheoliadau ychwanegol er mwyn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol, rwy'n gobeithio, allu ymateb yn gyflym ac yn gydymdeimladol i fusnesau lle y ceir achos priodol dros wneud hynny.