2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gynhwysiant digidol yn Aberafan yn 2018? OAQ51609
Ein blaenoriaeth yn Aberafan, fel yng ngweddill Cymru, yw sicrhau bod pobl yn cael y budd mwyaf posibl o'r cyfleoedd trawsnewidiol y gall technolegau digidol eu cynnig, gan sicrhau gwell canlyniadau economaidd, canlyniadau dysgu a chanlyniadau iechyd ar draws ein holl gymunedau.
Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, ond gallai gael ei ddad-wneud os nad ydym yn ofalus. Yn amlwg, mae cynhwysiant digidol yn cynnwys cyfeiriad at hygyrchedd, ac mae hygyrchedd yn ymwneud â dau beth. Un yw seilwaith, ac rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny, felly nid wyf am sôn am hynny ar hyn o bryd. Y llall yw hygyrchedd y dechnoleg. Yn aml iawn, yn ein cymunedau difreintiedig, cyflawnwyd hynny drwy ganolfannau cymunedol a llyfrgelloedd. Mae llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, o ganlyniad i ideoleg cyni Llywodraeth Doraidd San Steffan, bellach o dan fygythiad neu wedi diflannu, neu rai, efallai, wedi eu trosglwyddo i ofal y cymunedau, gyda'u horiau agor wedi crebachu o ganlyniad.
Felly, beth a wnewch i sicrhau bod pobl yn y cymunedau hyn yn gallu cael mynediad at y dechnoleg fel y gellir eu cynnwys, fel y gallant ennill sgiliau? Oherwydd mae popeth yn symud tuag at dechnoleg ddigidol, ac os na allwn gynnig y gallu iddynt fynd i rywle a chael mynediad, rydym yn gwneud cam â'r bobl hynny.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt hynod o bwysig. Rydym yn ymwybodol iawn o'r problemau sydd ynghlwm wrth gau cyfleusterau cymunedol, ac ati. O ganlyniad, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio'n benodol gyda grwpiau sydd wedi'u hallgáu i ymgysylltu â setiau penodol o gleientiaid. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o bartneriaeth Dewch Ar-lein Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, yn ei etholaeth, sy'n annog pobl, grwpiau cymunedol a mentrau i wneud y gorau o dechnoleg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'n cynnwys sesiynau blas ar dechnoleg ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol a sesiynau mewn llyfrgelloedd er mwyn chwilio am swyddi.
Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud, fel y dengys y fenter honno, yw edrych ar ffyrdd gwahanol o gyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Felly, rydym wedi bod yn gweithio, er enghraifft, gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau mynediad ar gyfer tenantiaid mewn cymunedau tai penodol, ac mae gennym un enghraifft lwyddiannus iawn ym Merthyr Tudful, lle rydym wedi adnewyddu a darparu nifer o hen liniaduron Llywodraeth Cymru, gan ddisgwyl y byddai'r galw yn gymharol isel a bu'r galw yn aruthrol. Rydym wedi ymestyn y trefniant hwnnw yno gydag oddeutu 20 o liniaduron ychwanegol a dau gymhorthydd ychwanegol. Ond rydym yn dibynnu i raddau helaeth ar gymorth gwirfoddolwyr a phobl ifanc, felly rwy'n falch iawn gyda'n menter, lle mae gennym 500 o arwyr digidol sy'n wirfoddolwyr ifainc i gynorthwyo pobl hŷn i fynd ar-lein a dysgu sgiliau, a gallwn wneud hynny mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys lleoliadau iechyd, gan fod yr agendâu hyn yn bwysig iawn.
Rydym yn gwario £4 miliwn ar hyn o bryd drwy Cymunedau Digidol Cymru, gan gefnogi sefydliadau eraill—felly, model hyfforddi'r hyfforddwr—er mwyn darparu rhai o'r sgiliau hyn, ac mae gennym amrywiaeth o wahanol drefniadau ar waith i geisio cyrraedd pobl.
Ond mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig ac rwyf am ychwanegu un arall ato: un o'r anawsterau sy'n ein hwynebu yw bod ein gwirfoddolwyr, weithiau, yn cael eu hatal rhag gwirfoddoli am yr oriau yr hoffent wirfoddoli am fod hynny'n ymyrryd â'u trefniadau credyd cynhwysol. Rwyf wedi cael trafodaethau cadarn iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â pham ar wyneb daear rydym yn atal pobl rhag gwirfoddoli oherwydd rhai o'r gofynion mwy beichus ar gyfer chwilio am swyddi ar-lein, ac ati, a orfodir arnynt. Felly, rwy'n cytuno bod y rhaglen cyni yn effeithio ar yr agenda hon i raddau, ond rydym yn gwneud ein gorau glas i fod yn greadigol er mwyn goresgyn rhai o'r anawsterau hynny.