Mesurau Gwrth-gaethwasiaeth

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am fesurau gwrth-gaethwasiaeth yng Nghymru? OAQ51583

Photo of Julie James Julie James Labour 3:00, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod Cymru yn gwrthwynebu caethwasiaeth. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid amlasiantaethol i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth, darparu hyfforddiant amlasiantaethol, cefnogi dioddefwyr a chynorthwyo i ddod â'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd ffiaidd hon o flaen eu gwell.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae Wendy Williams, arolygydd cwnstabliaeth EM, wedi dweud:

Er y gall achosion o gaethwasiaeth fodern fod yn gymhleth a galw am weithlu sylweddol, mae llawer o'r methiannau i ymchwilio i'r achosion hyn yn adlewyrchu diffygion mewn arferion plismona sylfaenol. Gwelsom ddulliau anghyson, a hyd yn oed aneffeithiol, o nodi dioddefwyr, a arweiniodd at gau ymchwiliadau cyn pryd.

O ganlyniad, cafodd dioddefwyr eu gadael heb eu diogelu, gan adael troseddwyr yn rhydd i barhau i ecsbloetio pobl fel pe baent yn ddim mwy na nwyddau. A allwch roi sicrwydd inni, os gwelwch yn dda, nad yw hyn yn digwydd yng Nghymru, o gofio bod grŵp atal caethwasiaeth Cymru yn dweud wrthym fod 10,000 o lysgenhadon atal caethwasiaeth yng Nghymru, ac eto mae gennym yr ystadegyn moel hwnnw mai dim ond un erlyniad a fu drwy Cymru gyfan hyd yma?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:01, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, ac rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth Cymru ar gaethwasiaeth i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod caethwasiaeth yn faes cymhleth iawn i'w ymchwilio ac i'w erlyn, a dyna pam rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu darpariaeth hyfforddiant ar y cyd ar gyfer uwch-swyddogion ymchwilio ym maes gorfodi'r gyfraith ac erlynwyr y goron ac eiriolwyr y goron. Gan gweithio gyda'n partneriaid yn 2017, fe lwyddasom i gyflwyno safon gyson o hyfforddiant atal caethwasiaeth i bron 8,000 o bobl ledled Cymru, a hoffwn gymryd y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gaethwasiaeth i roi gwybod i'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiadau hynny, gan fod pob digwyddiad y rhoddir gwybod i'r heddlu amdano yn cael ei ymchwilio, ac mae adroddiadau blaenorol wedi arwain at ddod â phobl o flaen eu gwell, neu roi terfyn ar y gweithgarwch yn gyfan gwbl.