Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae Wendy Williams, arolygydd cwnstabliaeth EM, wedi dweud:
Er y gall achosion o gaethwasiaeth fodern fod yn gymhleth a galw am weithlu sylweddol, mae llawer o'r methiannau i ymchwilio i'r achosion hyn yn adlewyrchu diffygion mewn arferion plismona sylfaenol. Gwelsom ddulliau anghyson, a hyd yn oed aneffeithiol, o nodi dioddefwyr, a arweiniodd at gau ymchwiliadau cyn pryd.
O ganlyniad, cafodd dioddefwyr eu gadael heb eu diogelu, gan adael troseddwyr yn rhydd i barhau i ecsbloetio pobl fel pe baent yn ddim mwy na nwyddau. A allwch roi sicrwydd inni, os gwelwch yn dda, nad yw hyn yn digwydd yng Nghymru, o gofio bod grŵp atal caethwasiaeth Cymru yn dweud wrthym fod 10,000 o lysgenhadon atal caethwasiaeth yng Nghymru, ac eto mae gennym yr ystadegyn moel hwnnw mai dim ond un erlyniad a fu drwy Cymru gyfan hyd yma?