Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, ac rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth Cymru ar gaethwasiaeth i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod caethwasiaeth yn faes cymhleth iawn i'w ymchwilio ac i'w erlyn, a dyna pam rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu darpariaeth hyfforddiant ar y cyd ar gyfer uwch-swyddogion ymchwilio ym maes gorfodi'r gyfraith ac erlynwyr y goron ac eiriolwyr y goron. Gan gweithio gyda'n partneriaid yn 2017, fe lwyddasom i gyflwyno safon gyson o hyfforddiant atal caethwasiaeth i bron 8,000 o bobl ledled Cymru, a hoffwn gymryd y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gaethwasiaeth i roi gwybod i'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiadau hynny, gan fod pob digwyddiad y rhoddir gwybod i'r heddlu amdano yn cael ei ymchwilio, ac mae adroddiadau blaenorol wedi arwain at ddod â phobl o flaen eu gwell, neu roi terfyn ar y gweithgarwch yn gyfan gwbl.