Plastig Untro

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:08, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Comisiynydd am ei hymateb cadarnhaol? Yn amlwg, mae'r Cynulliad wedi rhoi rhai camau ar waith yn ddiweddar, er enghraifft drwy gael gwared ar gwpanau coffi untro yma a newid i gwpanau ceramig, sy'n rhywbeth y mae gan y cyhoedd gryn ddiddordeb ynddo erbyn hyn. Felly, roeddem ar flaen y gad yn hynny o beth. Rwy'n awyddus inni aros ar flaen y gad. Rydym yn dal i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig untro ac ati, ac wrth edrych ar y siop yma, mae rhai o'n nwyddau mewn cynwysyddion plastig o hyd ac rydych yn edrych arnynt ac yn meddwl—wel, nid oes angen iddynt fod, mewn gwirionedd; mae'n rhywbeth sydd wedi tyfu'n arfer inni dyna i gyd. Felly, rwy'n falch o glywed bod gennych gynllun chwe mis, eich bod yn ceisio dileu cymaint o hyn â phosibl. Mae'n rhywbeth y credaf y gall pob un ohonom ddod at ein gilydd yn ei gylch. Ddydd Gwener, byddaf yn ymweld ag Aber-porth, un o gymunedau di-blastig Cymru, ond nid honno yw'r unig un bellach. Mae llawer o gymunedau yn dweud eu bod yn awyddus i baratoi i fod yn ddi-blastig, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod ninnau yn y Cynulliad—nid y Llywodraeth, ond ni yn y Cynulliad—yn gosod y safon ac yn dangos rhywfaint o arweiniad hefyd.