3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad ynglŷn â lleihau faint o blastig untro sy’n cael ei ddefnyddio ar ystâd y Cynulliad? OAQ51614
Diolch, Simon. Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau plastig ar yr ystâd, ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi erbyn 2018. Rydym yn gweithio i leihau plastig untro ar yr ystâd, gan newid i ddeunyddiau y gellir eu compostio lle bo hynny'n bosibl o fewn y chwe mis nesaf, yn ogystal â gweithio gyda chyflenwyr i chwilio am atebion amgen.
A gaf fi ddiolch i'r Comisiynydd am ei hymateb cadarnhaol? Yn amlwg, mae'r Cynulliad wedi rhoi rhai camau ar waith yn ddiweddar, er enghraifft drwy gael gwared ar gwpanau coffi untro yma a newid i gwpanau ceramig, sy'n rhywbeth y mae gan y cyhoedd gryn ddiddordeb ynddo erbyn hyn. Felly, roeddem ar flaen y gad yn hynny o beth. Rwy'n awyddus inni aros ar flaen y gad. Rydym yn dal i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig untro ac ati, ac wrth edrych ar y siop yma, mae rhai o'n nwyddau mewn cynwysyddion plastig o hyd ac rydych yn edrych arnynt ac yn meddwl—wel, nid oes angen iddynt fod, mewn gwirionedd; mae'n rhywbeth sydd wedi tyfu'n arfer inni dyna i gyd. Felly, rwy'n falch o glywed bod gennych gynllun chwe mis, eich bod yn ceisio dileu cymaint o hyn â phosibl. Mae'n rhywbeth y credaf y gall pob un ohonom ddod at ein gilydd yn ei gylch. Ddydd Gwener, byddaf yn ymweld ag Aber-porth, un o gymunedau di-blastig Cymru, ond nid honno yw'r unig un bellach. Mae llawer o gymunedau yn dweud eu bod yn awyddus i baratoi i fod yn ddi-blastig, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod ninnau yn y Cynulliad—nid y Llywodraeth, ond ni yn y Cynulliad—yn gosod y safon ac yn dangos rhywfaint o arweiniad hefyd.
Diolch i Simon am gydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n parhau. Mae gennym hidlyddion dŵr a ffynhonnau o gwmpas yr adeiladau, sy'n lleihau'r angen am ddŵr potel. Rydym yn darparu cyfleusterau ailgylchu helaeth ar draws yr ystâd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau, gan gynnwys plastig, ac mae gennym arwyddion clir a mentrau cyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleusterau ailgylchu, ac rydym yn annog pobl i'w defnyddio. Mae'r gwelliannau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cynnwys cael gwared â rhai o'r biniau gwastraff cyffredinol ger y desgiau i sicrhau cymaint o ddefnydd â phosibl o'r opsiynau ailgylchu. Diolch am gydnabod y defnydd o gwpanau plastig, nad yw'n digwydd bellach. Diolch.
Ar y mater hwn, roeddwn yn siomedig o weld, ym mrecwast briffio'r meddygon teulu, a fynychwyd gennych chi hefyd, fod gwellt plastig wedi eu darparu ar gyfer bwyta iogwrt, ac roeddwn yn meddwl tybed a allwch newid hynny i sicrhau eu bod yn rhai papur, oherwydd mae angen inni wahardd gwellt plastig; maent yn un o'r pethau gwaethaf. Yn ychwanegol at hynny, nid yw'r ffreutur yn darparu finegrét mewn powlenni neu jygiau mwyach, a bellach mae ganddynt gynwysyddion bach plastig gwirion, rhai maint unigol. Ychwanegu at y plastig a ddefnyddir ar yr ystâd y mae hynny'n ei wneud. Mae hyn yn gwbl warthus ac nid yw'n gynaliadwy. Tybed a allwch wneud rhywbeth ynglŷn â hyn.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Hoffwn roi sicrwydd i chi fod y gwaith yn mynd rhagddo ac y byddwn yn nodi ac yn mynd i'r afael â'r holl bwyntiau a godwyd gennych. Diolch.
Bydd cwestiynau 2 i 5 yn cael eu hateb gan Joyce Watson, y comisiynydd cydraddoldeb a'r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. Cwestiwn 2—Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.