Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i Simon am gydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n parhau. Mae gennym hidlyddion dŵr a ffynhonnau o gwmpas yr adeiladau, sy'n lleihau'r angen am ddŵr potel. Rydym yn darparu cyfleusterau ailgylchu helaeth ar draws yr ystâd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau, gan gynnwys plastig, ac mae gennym arwyddion clir a mentrau cyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleusterau ailgylchu, ac rydym yn annog pobl i'w defnyddio. Mae'r gwelliannau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cynnwys cael gwared â rhai o'r biniau gwastraff cyffredinol ger y desgiau i sicrhau cymaint o ddefnydd â phosibl o'r opsiynau ailgylchu. Diolch am gydnabod y defnydd o gwpanau plastig, nad yw'n digwydd bellach. Diolch.