Teuluoedd a Phlant

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:16, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu eich diddordeb yn hyn, gan y byddai o fudd i bawb pe gallai cynifer o bobl â phosibl fwydo eu plant ar y fron lle bynnag y dymunant. Fel rwyf wedi dweud, rydym wedi edrych ar leoliad y gadair honno. Nid yw hynny wedi'i benderfynu. Mae'r broses honno'n mynd rhagddi mewn ymgynghoriad â'r bobl a fydd yn awyddus i'w defnyddio. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, bydd yn dilyn o reidrwydd y byddwn yn edrych ar ddarparu ystafell i fynd law yn llaw â hynny.