Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i'r Comisiynydd am ei hymateb, ac rwy'n falch iawn o glywed bod cadair ar gyfer bwydo ar y fron wedi cael ei phrynu. Ar 3 Mai y llynedd, gofynnais gwestiwn tebyg ynghylch pa gynnydd a wnaed i sicrhau bod y Senedd yn fwy cyfeillgar tuag at blant a theuluoedd, ac yn benodol, at famau sy'n bwydo ar y fron—ac yn enwedig mamau sy'n dymuno bwydo ar y fron mewn gofod preifat. Roeddwn yn awyddus i glywed pa gynnydd a wnaed o ran nodi man o'r fath. Roeddwn yn bryderus fod yr ystafell deulu wedi cael ei throi'n ystafell gyfarfod, a gwn mai'r unig le preifat ar gyfer bwydo ar y fron ar hyn o bryd yw'r toiled, ac nid yw hynny i'w weld yn addas. Felly, tybed a ellid ystyried lleoedd fel hen ystafell y wasg, nad yw'n cael ei defnyddio o gwbl ar hyn o bryd, hyd y gwelaf, er mwyn gwneud popeth a allwn i annog menywod i deimlo eu bod yn rhydd i fwydo ar y fron yma. Oherwydd, yn amlwg, mae cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn isel, a dyma ein cyfle i ddangos esiampl.