3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
3. Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y Senedd yn lle mwy cyfeillgar i deuluoedd a phlant? OAQ51593
Cydnabyddir y Senedd eisoes fel lle croesawgar, ac mae wedi derbyn gwobrau am yr ymdrechion a wneir i ddarparu ar gyfer anghenion gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys cyfleusterau newid. Mae'r caffi bellach yn croesawu bwydo ar y fron, ac mae arwydd ger y fwydlen sy'n nodi hynny. Mae arwydd hefyd ar y sganwyr wrth i chi ddod i mewn i'r Senedd. Prynwyd cadair ar gyfer bwydo ar y fron, ac rydym yn gwerthuso, gyda defnyddwyr y gwasanaeth, y lleoliad mwyaf addas ar ei chyfer. Mae'r staff bob amser yn ceisio sicrhau bod yr holl ymwelwyr yn cael profiad cadarnhaol, gan gynnwys teuluoedd â phlant.
Diolch i'r Comisiynydd am ei hymateb, ac rwy'n falch iawn o glywed bod cadair ar gyfer bwydo ar y fron wedi cael ei phrynu. Ar 3 Mai y llynedd, gofynnais gwestiwn tebyg ynghylch pa gynnydd a wnaed i sicrhau bod y Senedd yn fwy cyfeillgar tuag at blant a theuluoedd, ac yn benodol, at famau sy'n bwydo ar y fron—ac yn enwedig mamau sy'n dymuno bwydo ar y fron mewn gofod preifat. Roeddwn yn awyddus i glywed pa gynnydd a wnaed o ran nodi man o'r fath. Roeddwn yn bryderus fod yr ystafell deulu wedi cael ei throi'n ystafell gyfarfod, a gwn mai'r unig le preifat ar gyfer bwydo ar y fron ar hyn o bryd yw'r toiled, ac nid yw hynny i'w weld yn addas. Felly, tybed a ellid ystyried lleoedd fel hen ystafell y wasg, nad yw'n cael ei defnyddio o gwbl ar hyn o bryd, hyd y gwelaf, er mwyn gwneud popeth a allwn i annog menywod i deimlo eu bod yn rhydd i fwydo ar y fron yma. Oherwydd, yn amlwg, mae cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn isel, a dyma ein cyfle i ddangos esiampl.
Rwy'n croesawu eich diddordeb yn hyn, gan y byddai o fudd i bawb pe gallai cynifer o bobl â phosibl fwydo eu plant ar y fron lle bynnag y dymunant. Fel rwyf wedi dweud, rydym wedi edrych ar leoliad y gadair honno. Nid yw hynny wedi'i benderfynu. Mae'r broses honno'n mynd rhagddi mewn ymgynghoriad â'r bobl a fydd yn awyddus i'w defnyddio. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, bydd yn dilyn o reidrwydd y byddwn yn edrych ar ddarparu ystafell i fynd law yn llaw â hynny.