Y Cyflog Byw Go Iawn

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:17, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Comisiwn wedi bod yn gyflogwr cyflog byw achrededig ers mis Rhagfyr 2012 ac mae'n mynnu bod yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol yn cael y cyflog byw fan lleiaf. Rydym hefyd yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod yr holl staff a gyflogir drwy gontractwyr yn cael y cyflog byw fan lleiaf drwy ei wneud yn rhwymedigaeth gytundebol. Mae gofyn i'n contractwyr ddarparu tystiolaeth eu bod yn cadw at y gyfradd ddiweddaraf o gyflog byw.