Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, diolch am eich ateb, a chroesawaf y gwaith a wnaed o ran talu'r cyflog byw i weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol—y cyflog byw go iawn—ond mae cryn bryder o hyd ynglŷn â phobl a gyflogir yn anuniongyrchol, gan ei bod yn amlwg nad yw rhai ohonynt yn ennill y cyflog byw go iawn. Tybed a fyddai modd dosbarthu datganiad i roi gwybodaeth inni ynglŷn â faint yn union o bobl ar y contractau anuniongyrchol hyn sydd ddim yn ennill y cyflog byw go iawn, a beth fyddai'r amserlen ar gyfer cyflawni hynny a sicrwydd fod y sefyllfa honno'n newid. Oherwydd mae'n achos cryn bryder. Rydym yn hyrwyddo'r cyflog byw go iawn yma; rydym yn ceisio dangos esiampl. Gwn nad yw'r Cynulliad yn cyflogi, ond mae gennym atebolrwydd uniongyrchol dros Gomisiwn y Cynulliad, ac ymddengys i mi nad ydym wedi cyflawni'r amcan canmoladwy a osodwyd gennym y dylid talu'r cyflog byw go iawn i bawb a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.