Teuluoedd a Phlant

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:14, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Cydnabyddir y Senedd eisoes fel lle croesawgar, ac mae wedi derbyn gwobrau am yr ymdrechion a wneir i ddarparu ar gyfer anghenion gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys cyfleusterau newid. Mae'r caffi bellach yn croesawu bwydo ar y fron, ac mae arwydd ger y fwydlen sy'n nodi hynny. Mae arwydd hefyd ar y sganwyr wrth i chi ddod i mewn i'r Senedd. Prynwyd cadair ar gyfer bwydo ar y fron, ac rydym yn gwerthuso, gyda defnyddwyr y gwasanaeth, y lleoliad mwyaf addas ar ei chyfer. Mae'r staff bob amser yn ceisio sicrhau bod yr holl ymwelwyr yn cael profiad cadarnhaol, gan gynnwys teuluoedd â phlant.