Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 24 Ionawr 2018.
Cyn i mi ddod i'r swydd hon—y rheswm dros ymgymryd â'r swydd hon oedd am fy mod yn awyddus iawn i hyrwyddo cyfle cyfartal yn y gweithle, boed hynny drwy gyflog neu unrhyw ddull arall. Nid wyf wedi derbyn unrhyw adroddiadau sy'n dweud nad ydym yn talu'r cyflog byw. Felly, os oes gennych achos penodol yr hoffech dynnu fy sylw ato, byddaf yn croesawu hynny. Yr hyn rwyf wedi'i wneud—ac rydym wedi bod yn gweithio tuag at hyn—yw trefnu cyfarfodydd gyda phobl a gyflogir yn uniongyrchol ac sy'n staff asiantaeth neu staff a gyflogir yn gytundebol fel y gallaf gyfarfod a thrafod eu telerau ac amodau gyda hwy wyneb yn wyneb, neu gyda'u cynrychiolwyr, oherwydd fel gwleidyddion, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni ddangos ymrwymiad go iawn tuag at y bobl a gyflogwn, yn enwedig pan fyddwn yn derbyn gwobrau ac yn ceisio bod yn esiampl dda.