Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 24 Ionawr 2018.
Rydych wedi rhoi pwys mawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe, ar yr adolygiad seneddol, ond wrth gwrs, cyhoeddwyd yr adolygiad seneddol yn rhy hwyr i ddylanwadu ar yr argymhellion hyn gan Hywel Dda. Felly, a wnewch chi ymuno â mi heddiw i annog Hywel Dda i dynnu'r cynigion hyn yn ôl hyd nes y byddwn wedi cael amser i ystyried yr adolygiad seneddol—sut y gellid ei roi ar waith ledled Cymru, a sut y gellir cael y sgwrs aeddfed hon rydych yn awyddus inni ei chael ar y sail honno heb i ni fynd i'r afael ag argymhellion unigol i gau ysbytai, na fydd, i fod yn onest, yn caniatáu i unrhyw un ohonom gymryd rhan mewn dadl aeddfed fel rydych yn ein hannog i wneud? Oni fyddai'n well o lawer pe baem yn ystyried yr adolygiad seneddol hwnnw, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac yn gwneud hynny ac yn annog pob bwrdd iechyd i edrych ar sut rydym yn ystyried yr adolygiad cyn rhoi cyfres o ymgynghoriadau ar waith gyda'u poblogaethau lleol, yn seiliedig ar egwyddorion yr adolygiad hwnnw? Byddech yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl pe baech yn caniatáu i Hywel Dda fwrw ymlaen gyda chyfres o ymgynghoriadau, rhai ohonynt yn hynod ddadleuol, nad oes modd i'r adolygiad seneddol ddylanwadu arnynt o gwbl. Ac rydych mewn perygl, felly, o golli peth o'r cyd-awydd a'r gefnogaeth eang a gafodd ei meithrin gennych yng nghyswllt yr adolygiad seneddol.
Hoffwn eich gwahodd hefyd i ymuno â'ch cyd-aelodau Llafur ym Mhreseli, Sir Benfro. Roedd Paul Miller, yr ymgeisydd yn 2015, yn sefyll dros adfer y gwasanaethau pediatrig yn ysbyty Llwynhelyg; yn wir, rwy'n ei gofio'n dweud ei fod wedi cael tri chyfarfod gyda Steve Moore—rhyfeddol; tri chyfarfod, dychmygwch, gyda Steve Moore—i drafod sut y gellid eu hadfer. Roedd pob un ohonom yn aros i'r gwasanaethau pediatrig hynny gael eu hadfer. Roeddent wedi cael eu diddymu dros dro, os caf eich atgoffa—nid o ganlyniad i benderfyniad ymgynghoriad, ond eu diddymu dros dro oherwydd anawsterau recriwtio. Er mwyn adfer rhyw fath o ymddiriedaeth ymysg pobl leol i ganiatáu inni gael y ddadl ddifrifol rydych yn gofyn i'r adolygiad seneddol esgor arni, does bosibl na fyddech yn adfer gwasanaethau pediatrig yn ysbyty Llwynhelyg yn gyntaf fel y gellir adfer ymddiriedaeth pobl, a gofyn i Hywel Dda beidio â bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad hwn hyd nes y byddwn wedi ystyried yr adolygiad seneddol yn llawn.