7. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:44, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i.

Dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, bydd £2.5 biliwn ar ei ffordd i ddinas-ranbarth Caerdydd a dinas-ranbarth Abertawe fel rhan o'r bargeinion dinesig, a lofnodwyd wrth gwrs gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn ogystal. Yng ngogledd Cymru, mae'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi cyflwyno ei gais ar gyfer cytundeb tebyg i wasanaethu ei ardal.

Yn adroddiad ein pwyllgor, roeddem yn argymell y dylai canolbarth Cymru hefyd gael bargen,

'i gwblhau'r jig-so yng Nghymru', fel y'i nodwyd yn ein hadroddiad. Roeddwn yn falch o glywed y Canghellor yng nghyllideb Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n ystyried cynigion ar gyfer bargen dwf canolbarth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol, nid yn lleiaf yn ei hymateb i'n hadroddiad, ond wrth gwrs, ni fydd geiriau mwyn yn gwella economi canolbarth Cymru, a heb fwy o fewnbwn gan y ddwy Lywodraeth, rwy'n ymwybodol o'r perygl y caiff calon canolbarth Cymru ei hanghofio. Felly, rwy'n falch fod yna gonsensws y dylid cael cytundeb ar gyfer canolbarth Cymru, ac yn awr, wrth gwrs, mae angen inni roi cnawd ar yr esgyrn ac adeiladu consensws ymhlith busnesau, y sector cyhoeddus a phobl canolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod eu bargen yn diwallu eu hanghenion ac yn gwneud hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach.