7. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:54, 24 Ionawr 2018

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma, er nad ydwyf yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ond yn derbyn gwahoddiad y Cadeirydd, rydw i'n ddigon bodlon cyfrannu i'r ddadl.

Mae Llywodraeth Prydain drwy eu bargeinion dinesig, a hefyd Llywodraeth Cymru drwy eu strategaeth economaidd sydd yn ymrwymo i fodel datblygu economaidd ar sail ranbarthol, wedi gosod cyfeiriad newydd i bolisïau economaidd i Gymru. Gyda chenedl ble mae cyfoeth a gwariant cyhoeddus yn tueddu i gael eu canolbwyntio mewn un cornel o'r wlad ar draul mannau eraill, mae rhoi ystyriaeth i ddatblygu economaidd ar sail ddaearyddiaeth mewn ymdrech i ddenu buddsoddiad a chyfleoedd i ardaloedd difreintiedig i’w groesawu, felly. Ond drwy wneud hynny, mae yna beryglon sydd yn rhaid i ni eu hystyried. Mi ddatgelodd yr ymchwiliad bryderon ynghylch a fyddai unrhyw effeithiau cadarnhaol y bargeinion dinesig yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf difreintiedig mewn ardal, ac a allai cystadleuaeth rhwng rhanbarthau weld rhai lleoedd yn ffynnu ar draul eraill.

Ond un elfen sydd yn rhaid ei chroesawu am ymdrechion y ddwy Lywodraeth i ranbartholi datblygu economaidd ydy’r cydweithio y mae'n rhaid iddo fodoli rhwng busnesau, awdurdodau lleol, y pwyllgorau dinesig newydd, Llywodraeth Cymru a hefyd y Deyrnas Unedig. Mae’r bargeinion dinesig yn ei gwneud hi’n haws i gydweithio gydag ardaloedd dros y ffin yn Lloegr. Mae cydweithio drawsffiniol yn bwysig, nid ond i Gymru, ond i unrhyw wlad mewn byd byd-eang.

Nid oes neb, wrth gwrs, yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu creu cysylltiadau masnach, er enghraifft rhwng Caerdydd a Bangor, o fewn Cymru, sydd dros 190 o filltiroedd i ffwrdd, o’i chymharu â Bryste sydd ddim ond 40 milltir i ffwrdd. Ond rydym ni mewn peryg o edrych i’r dwyrain yn rhy aml am atebion i’n problemau. Drwy wneud hynny, mae penderfyniadau megis buddsoddiad mewn isadeiledd yn cael eu gwneud ar sail y flaenoriaeth hon.

Fe gynhaliodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns, uwch-gynhadledd twf Hafren yr wythnos yma, a welodd fusnesau, awdurdodau lleol ac academyddion yn ymuno ynghyd i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil diddymu tollau Hafren. Gallai'r penderfyniad i ddiddymu’r tollau ar bont Hafren arwain at bwerdy gorllewinol sy'n ymestyn o Gaerfaddon a Bryste i Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe, ac yn arwain at hwb mewn ffyniant a swyddi, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol. Fel y dywedais yn gynharach, mae cydweithio trawsffiniol yn hanfodol, ond bod yn rhaid i hynny gael ei wneud ar sail partneriaeth deg, sydd yn fuddiol i gymunedau ar ddwy ochr Clawdd Offa. Mae’n rhaid i hynny olygu ymdrechion i sicrhau bod buddsoddiad yn dod i Gymru, i Gaerdydd, i Gasnewydd ac i Abertawe er mwyn creu swyddi o ansawdd da, ac nid hwyluso’r daith i'r bobl sydd yn byw yma i gyrraedd swyddi ym Mryste neu Gaerfaddon yn unig.

Ond nid yn unig hynny, beth am i’r gorllewin o Abertawe? Gyda phenderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio â buddsoddi mewn trydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe, y cysyniad y mae hynny yn ei greu i fuddsoddwyr ydyw nad oes pwrpas ystyried buddsoddi mewn ardaloedd y tu hwnt i Gaerdydd, heb sôn am y tu hwnt i Abertawe. Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn pryderu y gall rhanbartholi arwain at greu enillwyr a chollwyr, gyda rhai ardaloedd yn manteisio ar draul eraill. Ond mae’n amhosib crybwyll digon pa mor beryglus yw’r syniad o fargeinion dinesig a rhanbarthau economaidd i gymunedau yng ngorllewin eithaf Cymru, o ystyried mai datblygu economi drawsffiniol yw blaenoriaeth y Llywodraeth ar ddwy ochr yr M4. Diolch yn fawr.