Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 24 Ionawr 2018.
Fel y nodwyd eisoes, mae bargeinion dinesig yn cynnig cyfle newydd i ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i hybu economïau Cymru go iawn. Mae'n cynnig ffordd newydd, gydgysylltiedig o weithio. Yn bwysicach, cânt eu hategu gan chwistrelliad o gyfalaf a allai helpu i gyflawni manteision seilwaith mawr. Ond mae'n bwysig inni gael bargeinion dinesig yn iawn, fod y dull o'u llywodraethu yn ddealladwy ac yn hawdd ei adnabod. Rhaid iddynt hefyd fodloni amcanion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chynnig y cyfleoedd y mae cymunedau eu hangen.
Dyma'r pwyntiau rwyf am eu gwneud heddiw. Yn gyntaf, argymhelliad 2: mae atebolrwydd democrataidd yn allweddol i sicrhau bod bargeinion dinesig yn cyflawni eu potensial i roi hwb i'n heconomi. Rhaid i'r llywodraethu fod yn dryloyw, y disgwyliadau'n glir, a'r canlyniadau'n hawdd eu monitro. Mae'n bwysig fod cymunedau yn gwybod sut y gwerir eu harian. Mae hefyd yn hanfodol eu bod hwy, a'u cynrychiolwyr, boed wedi eu hethol i'r Cynulliad hwn, i siambrau cynghorau, neu i'r Senedd, yn gallu ymgysylltu'n bwrpasol a chraffu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Bydd hyn oll yn helpu i bennu perchnogaeth. Rwy'n deall bod pwyntiau tebyg wedi'u gwneud gan bwyllgor llywodraeth leol Senedd yr Alban wrth iddo ystyried bargeinion dinesig yn yr Alban.
Credaf fod yna debygrwydd pwysig o bosibl i'r sefyllfa gyda'r Undeb Ewropeaidd. Gwyddom fod cyllid yr UE wedi helpu i gyflawni prosiectau buddiol iawn ar draws ardaloedd fel fy un i, ond nid oedd llawer o bobl yn y cymunedau hynny erioed wedi teimlo'r ymdeimlad hwnnw o berchnogaeth. Nid oeddent yn gwybod i ble roedd yr arian yn mynd, beth oedd yn ei gyflawni neu'n ei ddarparu. Taniodd hyn y teimlad gwrth-wleidyddiaeth a amlygwyd ym mhleidlais Brexit 2016. Ni allwn i'r bargeinion dinesig syrthio i'r un fagl. Croesawaf ymateb cryf Ysgrifennydd y Cabinet i'r argymhelliad hwn. Yn yr un modd, o ran argymhelliad 3, dylai fod cydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth glir o beth yn union y mae llwyddiant a methiant yn ei olygu. Fodd bynnag, fel rwy'n dweud, mae angen inni fod yn feiddgar a deinamig a sicrhau nad partneriaid y bargeinion yn unig sydd â'r wybodaeth hon, ond ei bod yn cael ei rhannu a'i deall ar lawr gwlad hefyd.
Mae'r chweched argymhelliad yn bwysig iawn hefyd. Mae nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn sail briodol i waith ac amcanion menter y fargen ddinesig. Er enghraifft, o ran y nodau ffyniant a chydraddoldeb, mae'n dda nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Mae'r sylw fod lledaenu manteision economaidd ar draws y rhanbarthau yn allweddol i'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yn bwysig. Fel sosialydd, rwy'n argyhoeddedig fod ailddosbarthu economaidd yn allweddol i fesur llwyddiant y bargeinion dinesig. Yn ystod y dystiolaeth, clywsom bryderon gan Colegau Cymru am y posibilrwydd y bydd y Cymoedd yn cael eu diberfeddu. Rhaid inni wneud yn siŵr na fydd y diberfeddu hwn yn digwydd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth, fel y crybwyllwyd eisoes, yn hanfodol i hyn, a rhaid iddynt fod yn wirioneddol ddwy ffordd. Rhaid iddynt ddod â buddsoddiad a ffyniant i'r Cymoedd, fel y maent yn mynd â gweithwyr o'r Cymoedd i swyddi yng Nghaerdydd neu rywle arall. Bydd prosiect metro de Cymru yn gwbl allweddol i hyn.
Hefyd yn fyr, rwyf am grybwyll argymhelliad 10. Pan glywsom gan dystion, daeth manteision sicrhau ymgysylltiad awdurdodau lleol a phartneriaid sector preifat â nifer o fargeinion dinesig yn eithaf amlwg. Felly, mae ein hargymhelliad y dylai ffiniau fod yn aneglur ac yn hyblyg yn gwneud synnwyr. Mae hon hefyd yn ardal lle y gwn yn uniongyrchol o fy etholaeth y byddai dull o'r fath yn gweithio orau. Er enghraifft, mae cymunedau fel Hirwaun yn edrych tuag at, ac yn meddu ar gysylltiadau cyfathrebu cryf ag Abertawe, er eu bod yn rhan o brifddinas-ranbarth Caerdydd a bargen ddinesig prifddinas Caerdydd. Gallai'r ardaloedd hyn ar y ffiniau elwa o allu ymgysylltu mewn ffordd bwrpasol â dinas-ranbarthau Caerdydd ac Abertawe. Rwy'n teimlo felly fod ymateb Llywodraeth Cymru ar yr argymhelliad hwn yn siomedig. Crybwyllais hyn yn flaenorol yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog a chroesewais safbwyntiau clir y Prif Weinidog na fyddai unrhyw ffiniau cryf. Gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd pellach i ni ynglŷn â'r pwynt hwn wrth ymateb i'r ddadl heddiw.
Rwyf wedi croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ac i'r ymchwiliad ehangach a gynhaliwyd gan bwyllgor yr economi. Diolch i'r Cadeirydd, i'r Aelodau eraill, a'r tîm clercio, a hoffwn adleisio diolchiadau a roddwyd yn gynt i bob un o'n tystion hefyd. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y bargeinion dinesig yn gweithio er mwyn inni allu gweld datblygiad yr economïau rhanbarthol y mae Cymru eu hangen yn ddi-os er mwyn cystadlu a ffynnu yn y dyfodol.