Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 30 Ionawr 2018.
Bydd yr Aelodau yn awyddus i ddeall faint o safleoedd yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau a gysylltwyd drwy brosiect Cyflymu Cymru a sawl safle a gysylltwyd i gyd. Byddaf yn rhyddhau'r wybodaeth hon cyn gynted ag y bydd gennyf. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu'r data diweddaraf a gyflwynwyd gan Openreach ac yn gweithio drwy ein profion cadarn a'n proses ddilysu. Fy nod yw cyhoeddi'r ffigurau terfynol wedi'u cadarnhau yn y gwanwyn.
Er gwaethaf llwyddiant Cyflymu Cymru wrth drawsnewid cysylltedd band eang ledled Cymru, mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud. Rwy'n dal i dderbyn llwythi o lythyrau gan unigolion, cymunedau a busnesau sy'n rhwystredig oherwydd diffyg band eang cyflym lle maen nhw'n byw neu'n gweithio. Mae'r Llywodraeth hon yn rhannu'r rhwystredigaeth honno ac yn ymrwymedig i weithredu i fynd i'r afael â'r problemau band eang hynny.
Rydym ni wedi nodi 88,000 o safleoedd ledled Cymru na chaiff eu gwasanaethu dros y tair blynedd nesaf heb ymyrraeth gan y Llywodraeth. Mae map manwl yn dangos y safleoedd hyn ar gael ar y wefan. Fel yr amlinellais yn fy natganiad llafar ar 8 Tachwedd 2016, rydym ni wedi ymrwymo £80 miliwn i alluogi'r gwaith hwn. Mae'n bwysig cydnabod, fodd bynnag, y bydd y gwaith sydd i'w wneud yn mynd yn fwy anodd ac efallai na fydd dull gweithredu unffurf yn sicrhau'r canlyniad gorau. Felly, rwyf i heddiw yn cyhoeddi cyfres o fesurau a chynigion a fydd, gyda'i gilydd, yn ein helpu i wireddu'r uchelgais a ddisgrifir yn 'Symud Cymru ymlaen' i ddod â phobl at ei gilydd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym, dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.
Yn gyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod erbyn hyn wedi gwahodd cyflenwyr i dendro ar gyfer y cynllun olynol i Cyflymu Cymru. Rydym ni wedi gwahodd y farchnad i gyflwyno atebion mewn tair lot gyda phwyslais ar ddarparu gwledig, blaenoriaethu busnes a gwasanaethau gwibgyswllt 100 Mbps. Gwnaeth Cyflymu Cymru ddarparu mynediad i nifer fawr o safleoedd mewn ardaloedd gwledig, ond mae mwy o waith i'w wneud mewn rhannau o Bowys a Cheredigion yn arbennig. I fynd i'r afael â hyn, rydym ni wedi annog atebion sy'n cysylltu safleoedd yn yr ardaloedd hynny ac mewn ardaloedd â chwmpas data symudol 4G is. Bydd asesiad y tendr hefyd yn cydnabod y cynigwyr hynny sy'n targedu safleoedd sy'n dioddef y cyflymderau lawrlwytho isaf. Mae busnesau yn manteisio ar y cyfleoedd y mae bod â chysylltiad cyflym yn eu cynnig, ond rydym yn cydnabod bod meysydd lle gallai busnesau gael eu gwasanaethu'n well. Rydym ni, felly, wedi annog cynigwyr i roi sylw arbennig i safleoedd busnes yn eu hymatebion i'r gwahoddiad i dendro.
Mae'r galw am gysylltedd a chyflymder y cysylltedd hwnnw yn parhau i dyfu. Yn y cartref, er enghraifft, mae ffrydio fideo i setiau teledu 4K ac 8K erbyn hyn yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar led band ac mae angen inni sicrhau bod y seilwaith yn parhau i ddiwallu'r galw hwn. Mae angen inni hefyd sicrhau, pryd bynnag y bo'n bosibl, ein bod yn lleihau'r angen am ymyrraeth gyhoeddus yn y dyfodol cymaint â phosibl drwy annog atebion cynaliadwy y gellir eu datblygu yn y dyfodol heb yr angen am ragor o fuddsoddiad cyhoeddus. Rydym ni, felly, wedi annog y farchnad i ganolbwyntio ar gyflawni cysylltedd gwibgyswllt a gigabit yn eu hymatebion i'r gwahoddiad i dendr. Rwy'n gwybod bod ansicrwydd ynghylch pa safleoedd a gaiff eu cysylltu â'r amserlenni ar gyfer eu cysylltu wedi achosi rhywfaint o rwystredigaeth wrth ddarparu Cyflymu Cymru. I helpu i liniaru hyn, bydd y cynigiwr llwyddiannus yn gorfod nodi o'r cychwyn cyntaf y safleoedd penodol a fydd yn cael eu gwasanaethu mewn unrhyw lot penodol. Bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i drigolion a busnesau yn y cynllun, a bydd hefyd yn galluogi'r safleoedd hynny na fydd yn cael eu cynnwys i ganolbwyntio ar ddulliau amgen.
Rwy'n ymwybodol iawn bod llithriant yn yr amserlenni cyflawni wedi bod yn bla i Cyflymu Cymru a gwnaeth hyn achosi rhwystredigaeth ddiddiwedd i'r rheini y newidiwyd eu dyddiadau. Er ei bod yn annhebygol y gellir dileu llithriant yn y prosiect yn llwyr oherwydd cymhlethdod y beirianneg dan sylw a maint yr her, byddwn yn annog cyflenwyr i ystyried sut y gellir lleihau oedi ac i roi gwybod i safleoedd pan fydd newidiadau na ellir eu hosgoi yn codi. Er hyn, mae'n rhaid imi fod yn glir ei bod yn annhebygol y bydd y cyllid sydd ar gael yn darparu band eang cyflym i bob safle a nodwyd gennym. Mae'r gwahoddiad i dendro yn cynrychioli un rhan o gyfres o ymyriadau cydgysylltiedig a gynlluniwyd i wella cysylltedd. Bydd ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn yn parhau i ddarparu cyllid ochr yn ochr â'r gwaith hwn. Mae'r ddau gynllun yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu'r atebion cywir ac yn ategu'r cynllun newydd i olynu Cyflymu Cymru newydd a'r tirlun band eang ehangach.
Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd, ychwanegol sy'n cefnogi cymunedau sy'n dangos galw pendant, gan dargedu yn arbennig y cymunedau hynny na fydd cyflenwyr yn eu cynnwys yn eu hymateb i'r gwahoddiad i dendro. Rydym yn ceisio sefydlu tîm allgymorth band eang i gefnogi'r dull hwn ac i weithio gyda chlystyrau o gartrefi neu fusnesau i harneisio'r galw hwn, diffinio prosiect lleol, a chaffael ateb. Mae llawer o waith i'w wneud ar y dull hwn, ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion maes o law.
Yn olaf, codwyd pryderon am y safleoedd hynny lle mae'n ymddangos bod y seilwaith sydd ei angen i'w cysylltu nhw wedi ei osod gan Openreach, ond nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau. Mewn amgylchiadau o'r fath, gall Aelodau fod yn sicr nad yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu unrhyw agwedd ar y seilwaith hwnnw. Rydym ni wedi gwahodd Openreach i roi manylion am y strwythurau hyn a byddwn yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r gwaith o'u cwblhau drwy'r dull cyfran enillion yn y cytundeb grant fel y gellir ymdrin â chynifer o safleoedd â phosibl. Yn ogystal â hyn, rwyf hefyd wedi cytuno i gais gan Openreach i ymestyn dau fis ar gyfnod adeiladu prosiect Cyflymu Cymru er mwyn i'r gwaith sydd wedi'i oedi ar ryw 2,500 o safleoedd gael ei gwblhau a'i gomisiynu. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
Er fy mod i'n credu'n gryf na ddylid tanbrisio llwyddiant Cyflymu Cymru, ac er fy mod yn annog yr Aelodau i ystyried y llwyddiannau sylweddol yn eu hetholaethau yn ogystal â'r heriau, rwyf yn cydnabod bod gennym lawer i'w wneud. Yn anad dim, mae angen inni sicrhau bod band eang cyflym ar gael i bawb er mwyn i Gymru allu ateb y galw cynyddol am led band cyflymach a digido cynyddol. Gyda'i gilydd, bydd y cynllun olynol, y cynllun cymunedol, a'n cynlluniau talebau yn darparu pecyn cynhwysfawr o ymyriadau a fydd yn ein helpu i gyflawni heriau'r dyfodol.