Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 30 Ionawr 2018.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod pob Aelod yma wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg sydd yn ysbrydoli, yn ysgogi ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu posibiliadau, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad. Mae gennym syniadau gwahanol iawn am sut y gellir cyflawni hynny, ond rwy'n credu bod pawb yn ymdrin â hyn o'r un safbwynt—rydym yn dymuno'r gorau i holl blant a phobl ifanc Cymru.
Dylwn yn gyntaf roi clod lle mae'n ddyledus i Ysgrifennydd y Cabinet am gyfaddef nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi data dibynadwy ar faint o blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref. I fod yn deg, mae canfod y niferoedd hynny o blant sy'n cael eu haddysg gartref ymhell o fod yn fater syml. Ni allwch yn syml gymharu cofnodion geni a marwolaeth, er enghraifft, â chofnodion ysgol, oherwydd bod teuluoedd yn symud o gwmpas, yn amlwg. Rwy'n croesawu'r mesurau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi eu cyhoeddi heddiw i geisio mynd i'r afael â'r diffyg hwn gyda gwybodaeth.
O ran y cynnig bod angen i ysgolion annibynnol roi gwybodaeth benodol i awdurdodau lleol, ni fyddwn fel arfer yn croesawu rhywbeth allai gael ei ystyried yn ymyrraeth gan y wladwriaeth. Er hynny, ar yr achlysur hwn, credaf nad oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw beth arall y gallai ei wneud, oherwydd ni allaf weld sut y gall awdurdodau lleol gasglu data cywir os nad ydyn nhw'n gwybod pa blant sydd mewn addysg annibynnol.
Rwy'n cefnogi'r amcan i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn cael addysg dda a chyflawn. Rydych wedi dweud eich bod yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael addysg addas. Mae'n hanfodol fod yr asesiad a wneir i weld a yw plentyn yn cael addysg addas yn un teg ac nad yw 'addasrwydd' yn gyfystyr i 'gymeradwy gan y wladwriaeth'. Hanfod addysg yn y cartref i lawer o rieni yw bod gan y rhiant y gallu i benderfynu ar gwricwlwm a chyflymder addas i'r plentyn. Felly, mae angen rhoi cydnabyddiaeth i hawl y rhieni i benderfynu ar gynnwys addysg eu plentyn. Mae'n allweddol bod llais cryf gan y rhieni sy'n rhoi addysg yn y cartref i'w plant wrth ddatblygu meini prawf yr asesu a bod ganddynt y modd i herio asesiad awdurdod lleol o'r addysg a ddarperir i'w plentyn.
Rwy'n croesawu bwriad Ysgrifennydd y Cabinet i gael ymgynghoriad ar y canllawiau statudol a byddwn yn annog rhieni i wneud cyfraniad. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau heddiw pryd y caiff y dogfennau ymgynghori eu cyhoeddi a pha mor hir fydd y cyfnod ymgynghori? Rwy'n croesawu hefyd y bwriadau a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried sut y darperir gwasanaethau i blant sy'n cael addysg yn y cartref a'r ddarpariaeth o gymorth i rieni, fel cymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol. Cymeraf yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei gair mai ei bwriad yw cynorthwyo rhieni sy'n dymuno addysgu yn y cartref, yn hytrach na barnu eu penderfyniadau, ac rwy'n sicr nad yw hynny'n fwriad ganddi.
Credaf y byddai rhieni sy'n dewis addysgu eu plant yn y cartref, er y byddent yn croesawu'r cymorth a'r gefnogaeth ychwanegol, yn pryderu y gallai hyn gynrychioli blaen y gyllell o ran ymyrraeth y wladwriaeth yn y dewisiadau y maen nhw wedi'u gwneud er mwyn eu plentyn. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod heddiw i roi ei sicrwydd personol i rieni na fydd y mesurau yr ydych yn eu cyflwyno yn cael yr effaith o roi pwysau ar rieni i roi'r gorau i addysgu eu plant gartref, nac yn arwain at awdurdodau lleol i bob pwrpas yn penderfynu ar gynnwys yr addysg a ddarperir yn y cartref? Diolch.