Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch. Yn gyntaf, credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod, fel y crybwyllwyd yn ddiweddar yn adroddiad diweddaraf y prif arolygydd ar y system addysg yng Nghymru, fod ymddygiad mewn ysgolion yn gwella, a byddai'n gas gennyf pe bai pobl yn gwrando ar y cwestiwn hwn ac yn credu bod gennym broblem arbennig o ddifrifol. Ond yn amlwg, fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, mae unrhyw drais, boed tuag at gyd-ddisgyblion neu tuag at staff yr ysgol, yn gwbl annerbyniol i mi. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch ymyriadau diogel ac effeithiol, ac rwyf bob amser yn barod i ystyried pa gamau ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwyf am i ysgolion Cymru fod yn lleoedd diogel a hapus i ddysgu ac i weithio ynddynt.