Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 31 Ionawr 2018.
Rydw i'n frwd iawn dros gyfathrebu llawer cliriach efo pobl ifanc yn 16 oed y dylen nhw fod yn ystyried mynd am brentisiaeth fel dewis amgen. Mi gysylltodd etholwr efo fi yn ddiweddar a oedd hefyd yn gefnogwr i brentisiaethau, ac yn wir mae ei ddau fab o yn dilyn prentisiaethau ar hyn o bryd. Ond mae o yn bryderus am y rhwystr yma o gostau teithio uchel i brentisiaethau, i brentisiaid, a bod hynny yn arbennig o aciwt mewn ardaloedd gwledig lle, wrth gwrs, y gallai'r gweithle fod yn bell iawn i ffwrdd. Pa ystyriaeth arbennig a all y Llywodraeth ei rhoi yng ngoleuni'r ateb yr ydym wedi'i gael gennych chi y prynhawn yma i ystyriaethau penodol i ardaloedd gwledig lle nad ydy'r gweithle ar gyfer prentis ar garreg y drws, ac yn wir y gall fod yn bell iawn i ffwrdd?