Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 31 Ionawr 2018.
A gaf i jest ddweud ein bod ni wedi edrych mewn i'r mater yma? Un o'r problemau yw gan fod hwn yn fater lle rydym ni'n rhoi arian ychwanegol, gallai hynny gael ei weld fel taxable benefit, ac mae hynny'n creu problem achos nid yw'r cymorth yma ar gael i bob un. Felly, beth nad ydym eisiau ei weld yw sefyllfa lle maen nhw'n cael arian wedi'i gymryd oddi wrthyn nhw achos ein bod ni'n rhoi'r budd-dal yma iddyn nhw. Felly, mae'n fwy cymhleth na fyddech chi'n ystyried ar y dechrau.
Wrth gwrs, rŷm ni wedi cael y mytravelpass yma, sydd yn rhoi un trydydd off pris tocynnau i bobl sydd yn 16 i 18 oed. Mae hynny'n cael ei asesu ar hyn o bryd, ac rydw i'n meddwl bod hynny'n mynd tuag at y cyfeiriad cywir. Ond, rydw i yn cymryd bod hon yn broblem ychwanegol yng nghefn gwlad—pobl sy'n bell i ffwrdd. Felly, rŷm ni yn edrych i mewn iddo fe, a rŷm ni'n ystyried nawr beth yw'r ymateb i mytravelpass.