Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 31 Ionawr 2018.
Dylid cynnwys addysg bellach yn y broses o ddylunio a datblygu'r cwricwlwm. Mae cymal Baker wedi dod i rym yn Lloegr yn ddiweddar, i fynnu bod ysgolion yn gadael i ddarparwyr addysg bellach hysbysebu eu gwasanaethau i ddisgyblion blynyddoedd 8 i 13, gan sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt wedi iddynt adael addysg orfodol. O gofio'r diwygiadau sylweddol sydd ar y gweill i'r cwricwlwm, yn ogystal â llywodraethu addysg ôl-16 yn arbennig, a ddylem ni yng Nghymru ystyried mecanwaith tebyg er mwyn paratoi disgyblion ar gyfer y cyfnod pontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach?