1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
8. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i baratoi'r sector addysg ôl-16 yng Nghymru ar gyfer gweithredu'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus'? OAQ51676
Mae adolygiad yr Athro Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus', wedi arwain at oblygiadau pellgyrhaeddol a radical ar gyfer y system addysg yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddatblygu'r cynllun a'r amserlen gyffredinol. Mae'r ffocws ar y sgiliau hanfodol a'r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar bobl ifanc yn y dyfodol.
Dylid cynnwys addysg bellach yn y broses o ddylunio a datblygu'r cwricwlwm. Mae cymal Baker wedi dod i rym yn Lloegr yn ddiweddar, i fynnu bod ysgolion yn gadael i ddarparwyr addysg bellach hysbysebu eu gwasanaethau i ddisgyblion blynyddoedd 8 i 13, gan sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt wedi iddynt adael addysg orfodol. O gofio'r diwygiadau sylweddol sydd ar y gweill i'r cwricwlwm, yn ogystal â llywodraethu addysg ôl-16 yn arbennig, a ddylem ni yng Nghymru ystyried mecanwaith tebyg er mwyn paratoi disgyblion ar gyfer y cyfnod pontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach?
Wel, nid yw 'Dyfodol Llwyddiannus' yn cyfeirio'n benodol at ddysgwyr ôl-16, ond rwy'n derbyn y pwynt ei bod yn bwysig sicrhau perthynas a bod pobl yn deall y dilyniant angenrheidiol rhwng ysgol ac addysg bellach. Felly, rydym wedi gofyn i Colegau Cymru bennu set o argymhellion ar yr hyn y gall addysg bellach ei wneud i ddatblygu cwricwlwm newydd, ond credaf mai'r pwynt arall yw bod angen inni sicrhau bod plant ysgol yn ymwybodol o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ac nad yw'r llwybr academaidd yn addas i bawb o reidrwydd, ac mae angen inni sicrhau bod gennym bosibiliadau mwy gwrthrychol mewn ysgolion, efallai, o ran caniatáu i unigolion—ei bod yn system sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach nag un sy'n annog pobl ifanc i aros yn yr ysgol o reidrwydd, gan nad yw hynny'n addas i bob disgybl yn y chweched.
Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet.