Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 31 Ionawr 2018.
Wel, nid yw 'Dyfodol Llwyddiannus' yn cyfeirio'n benodol at ddysgwyr ôl-16, ond rwy'n derbyn y pwynt ei bod yn bwysig sicrhau perthynas a bod pobl yn deall y dilyniant angenrheidiol rhwng ysgol ac addysg bellach. Felly, rydym wedi gofyn i Colegau Cymru bennu set o argymhellion ar yr hyn y gall addysg bellach ei wneud i ddatblygu cwricwlwm newydd, ond credaf mai'r pwynt arall yw bod angen inni sicrhau bod plant ysgol yn ymwybodol o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ac nad yw'r llwybr academaidd yn addas i bawb o reidrwydd, ac mae angen inni sicrhau bod gennym bosibiliadau mwy gwrthrychol mewn ysgolion, efallai, o ran caniatáu i unigolion—ei bod yn system sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach nag un sy'n annog pobl ifanc i aros yn yr ysgol o reidrwydd, gan nad yw hynny'n addas i bob disgybl yn y chweched.