Ymgynghoriadau Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:33, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd fy ymgysylltiad â fy mwrdd iechyd yn llawer mwy anodd ar ôl digwyddiadau'r 24 awr diwethaf, mae'n rhaid i mi ddweud, gan fy mod yn gwybod bellach y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu'n rhydd â'r Llywodraeth, gyda'r bwriad o ddifenwi ymgysylltiad â'r bwrdd iechyd. Felly, hoffwn gadarnhau fy mod yn gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu cadarnhau heddiw pa wybodaeth arall sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymgysylltiad Aelodau'r Cynulliad â'u byrddau iechyd. Byddai'n ddefnyddiol gwybod beth sydd ganddo o'i flaen yn ei ffeil fach.

Ond o safbwynt y cyhoedd, er mwyn iddynt hwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau bwrdd iechyd, mae'n rhaid iddynt gredu bod y cynigion yn yr ymgynghoriad yn gredadwy. Nawr, un o'r cynigion yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, sy'n debygol o gael ei gyflwyno ym mis Mawrth, yw cynnig am ysbyty newydd sbon, rywle yn y gorllewin, i gymryd lle Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg. Er mwyn i hwnnw fod yn gynnig credadwy, i'w gymryd o ddifrif mewn ymarfer ymgynghori, ac ennyn ymateb credadwy gan y cyhoedd, mae'n rhaid iddo ddweud wrth y Siambr yma heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r arian cyfalaf os argymhellir ysbyty newydd sbon ar gyfer gorllewin Cymru. A fydd yn gwneud hynny, fel bod gan unrhyw ymgynghoriad rywfaint o hygrededd ynghlwm wrtho?