Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 31 Ionawr 2018.
Credaf fod dau bwynt cyffredinol yno. Mae'r cyntaf mewn perthynas â'r pwyntiau a wnaethoch am ddifenwi Aelodau'r Cynulliad a'u hymdrechion i ymgysylltu â byrddau iechyd lleol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob Aelod Cynulliad yn ymgysylltu â'u bwrdd iechyd lleol ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd. Rydym newydd gael adolygiad seneddol sy'n nodi, unwaith eto, fod y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu trefnu ar hyn o bryd wedi gweithio'n dda i ni yn y gorffennol ond nad ydynt yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, mae angen i ni eu newid. A dyna'r her genedlaethol sy'n ein hwynebu. Credaf y dylai pob Aelod Cynulliad gymryd rhan briodol yn y sgwrs honno. Unwaith eto, mae angen i'r aeddfedrwydd a arweiniodd at yr adolygiad seneddol barhau yn y ddadl barhaus honno. Ac rwy'n credu, pan fo dadl yn y lle hwn, wrth gwrs, bydd cryn dipyn o ddadlau yn y Siambr. Nid yw fel pe bai Gweinidogion—[Torri ar draws.]