Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi sôn rhywfaint am hyn ddydd Llun. Clywsant dystiolaeth fod bywyd gwaith cyfartalog gweithiwr cymdeithasol yn llai nag wyth mlynedd, tra gellid disgwyl, mewn cymhariaeth, i nyrs weithio am 16 mlynedd a meddyg am 25. Er bod hynny'n golygu bod angen hyfforddi gweithwyr cymdeithasol newydd o hyd, mae hefyd yn golygu bod prinder gwirioneddol o brofiad y gellir ei drosglwyddo i genedlaethau newydd, os mynnwch, o hyfforddeion a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.
O gofio'r hyn rydych newydd ei ddweud am gronfa'r gweithlu, sut rydych yn disgwyl gwella'r niferoedd sy'n cael eu denu at waith cymdeithasol, ac i aros mewn gwaith cymdeithasol, yn fwy pwysig? A ydych yn credu bod y cymwysterau newydd yn berthnasol i hynny? Pwy sy'n penderfynu ar y dangosyddion perfformiad allweddol y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru fod yn edrych arnynt er mwyn sicrhau cynnydd yn y ddau fater?