Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:52, 31 Ionawr 2018

Diolch eto. Fy nghwestiwn olaf i ydy: mae'r ymchwil yn y BMJ hefyd wedi darganfod mai un o'r pethau eraill llesol i atal marwolaethau, yn ogystal â rhagor o arian—rydym ni wedi ymdrin â'r pwynt yna—ydy presenoldeb nyrsys cofrestredig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Dyna beth mae'r ymchwil yn ei ddangos. Wrth gwrs, wrth i bawb drafod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn y Cynulliad diwethaf, gwnaeth eich Llywodraeth chi bleidleisio yn erbyn gwelliannau a fuasai wedi galluogi awdurdodau lleol i gyflogi nyrsys cofrestredig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Ond mae yna ffyrdd eraill o ddatrys y broblem yna. Felly, yn unol â'r dystiolaeth, pa gynlluniau sydd gennych chi, fel Llywodraeth, i gynyddu nifer y nyrsys mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fel rhan o unrhyw gynllun i liniaru effeithiau marwol y polisi o lymder o Lywodraeth San Steffan?