Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:48, 31 Ionawr 2018

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae ymchwil y BMJ yn dangos fod 22,000 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn yn Lloegr o achos torri cyllideb gofal cymdeithasol yn Lloegr—22,000 o bobl yn marw o achos y torri yn y gyllideb. Dyna beth y mae polisi llymder yn ei achosi. Ar ben hynny, achos gwnaeth y Llywodraeth yn Lloegr ddiogelu wariant ar iechyd—hynny yw 'ring-fence-io' iechyd yn Lloegr—bu i gyllid gofal cymdeithasol gymryd hit enfawr fel canlyniad. A dyna pam rŷm ni'n cael y 22,000 o farwolaethau yna: achos y toriadau yna ac achos nad oes digon o bres.

Nawr, mae pobl wastad yn dweud, 'Ddim jest pres yw e, Dai', ond, yn achos gofal cymdeithasol, arian yw e, a dweud y gwir, achos mae yna bobl mewn ysbytai pan ddylent fod allan o ysbyty. Dyna beth y canlyniad diffyg gofal cymdeithasol. Byddwn ni'n sôn am farwolaethau yn Ysbyty Glan Clwyd yn nes ymlaen. Pam mae'r bobl yna dal i fod yn yr ysbyty? Achos nad ydyn nhw'n gallu mynd allan ac yn ôl i'w cartrefi o achos diffyg gofal cymdeithasol a diffyg arian.

Fel rŷch chi wedi cyfeirio, yn sgil yr adolygiad seneddol i iechyd a gofal cymdeithasol gan Dr Ruth Hussey a phwysigrwydd canolog gofal cymdeithasol a'r galw am drawsnewid, a ydych chi, yn y bôn, yn mynd i alw am gynyddu'r gwariant ar ofal cymdeithasol, achos dyna beth sydd angen ei wneud—nid gwneud mwy efo'r arian sydd ddim gyda ni, ond galw am gynnydd yn y gwariant a chynnydd yng nghyllid yr integrated care fund?