'Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru'

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:14, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad dilynol ar y mater penodol hwn yn 2015 ac roedd yn nodi nad oedd rhai byrddau iechyd wedi dangos eu bod yn gallu mynd i'r afael â'r hawliadau roeddent yn gyfrifol amdanynt mewn ffordd amserol, a bod rhai hawlwyr yn cael eu trin yn afresymol. A ydych bellach mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwn, ac a allwch gadarnhau bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru  yn ymdrin â hawlwyr yn rhesymol a chyfrifol bellach, fel y gall pobl fod â hyder yn y system gyfan?