Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 31 Ionawr 2018.
Rwy'n deall y pryder sy'n cael ei leisio, ac rwy'n siŵr, fel gydag Aelodau eraill, fy mod wedi cael etholwyr yn lleisio rhai pryderon am y broses yn y gorffennol gyda mi yn rhinwedd fy swydd fel Aelod lleol. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae gwelliant sylweddol wedi bod o ran mynd i'r afael ag ôl-groniad yr hawliadau, i geisio eu datrys, ac rwyf wedi cael sicrwydd bod byrddau iechyd wedi gwella'r sefyllfa. Ni fuaswn eisiau ceisio gosod safbwynt absoliwt oherwydd mae lle i wneud camgymeriadau mewn unrhyw wasanaeth meidrol bob amser. Os yw'r Aelodau'n ymwybodol o heriau unigol sy'n bodoli, buaswn eisiau iddynt godi hynny gyda'u byrddau iechyd. Os nad ydynt yn cael ymateb yno, gallant bob amser ysgrifennu ataf fi. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bwysau ar y system gyfan, ond wrth gwrs rwyf bob amser yn fodlon dysgu o adolygiad pellach ac rwy'n siŵr y cynhelir un ar ryw adeg yn y dyfodol.