Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:08, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd Cabinet, yn ddiweddar cynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain arolwg o feddygon teulu sy'n cynnig gwasanaethau y tu allan i oriau. Nid yw bron i hanner yr holl ymatebwyr yn darparu unrhyw wasanaethau y tu allan i oriau. Gofynnwyd i'r meddygon teulu hynny nodi'r prif rwystrau i ddarpariaeth y tu allan i oriau: dywedodd 64.3 y cant mai gorflinder o ganlyniad i bwysau dyddiol oedd y prif rwystr. Yn fy rhanbarth i, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar practis wedi cau ac mae 13 ar restr y bwrdd iechyd lleol o bractisau sydd mewn perygl o gau, ac mae 12 pellach wedi nodi bod eu dyfodol yn ansicr. Os bydd mwy o bractisau'n cau, ni fyddwn yn gallu darparu gwasanaethau digonol o fewn oriau gwaith arferol, heb sôn am y tu allan i oriau. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i fynd i'r afael â phwysau gwaith i alluogi nifer fwy o feddygon teulu i ddarparu gofal y tu allan i oriau?