2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51664
Diolch. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd yng Ngorllewin De Cymru ddarparu gwasanaethau sylfaenol y tu allan i oriau sy'n diogel ac yn effeithiol i ymateb i anghenion gofal iechyd brys pan fydd practisau ar gau. Y pwynt cyswllt a mynediad yng Ngorllewin De Cymru bellach yw'r gwasanaeth 111.
Ysgrifennydd Cabinet, yn ddiweddar cynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain arolwg o feddygon teulu sy'n cynnig gwasanaethau y tu allan i oriau. Nid yw bron i hanner yr holl ymatebwyr yn darparu unrhyw wasanaethau y tu allan i oriau. Gofynnwyd i'r meddygon teulu hynny nodi'r prif rwystrau i ddarpariaeth y tu allan i oriau: dywedodd 64.3 y cant mai gorflinder o ganlyniad i bwysau dyddiol oedd y prif rwystr. Yn fy rhanbarth i, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar practis wedi cau ac mae 13 ar restr y bwrdd iechyd lleol o bractisau sydd mewn perygl o gau, ac mae 12 pellach wedi nodi bod eu dyfodol yn ansicr. Os bydd mwy o bractisau'n cau, ni fyddwn yn gallu darparu gwasanaethau digonol o fewn oriau gwaith arferol, heb sôn am y tu allan i oriau. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i fynd i'r afael â phwysau gwaith i alluogi nifer fwy o feddygon teulu i ddarparu gofal y tu allan i oriau?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt am ddyfodol gofal iechyd lleol. Mae'n mynd yn ôl at rai o'r cwestiynau a drafodwyd gennym yn gynharach. Mae ceisio cynnal y system gyfredol sydd gennym mewn perygl o fethu yn y dyfodol ac roedd yna neges glir iawn yn yr adolygiad i bob un ohonom ei hystyried.
Yn y Siambr hon, rydym wedi cael nifer o sgyrsiau am ddyfodol gofal iechyd lleol a sut olwg fydd arno. Rydym wedi sôn am y ffaith bod meddygon teulu yn gweithio fwyfwy mewn timau integredig. Mae llawer o feddygon teulu yn gwneud hynny eisoes ac mae rhannau eraill o'n gweithlu meddygon teulu yn dal i fod ar y daith honno. Ac wrth i ni ddysgu mwy am glystyrau a'r ddadl a gawsom yn y Siambr hon yn ddiweddar, byddwn yn dysgu mwy am yr hyn sy'n gweithio, a rhan o'r her y mae'r adolygiad Seneddol wedi'i gosod ar ein cyfer wedyn ac ar gyfer y Llywodraeth yn benodol yw: sut rydym yn galluogi hynny i ddigwydd yn fwy cyson ar draws y wlad? Sut y gallwn ledaenu dysgu a rhannu dysgu a chael llai o oddefgarwch o arferion lleol nad ydynt yn arferion da? Sut y mae gwneud y gwaith yn haws ac yn well i feddygon teulu? Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud ac mae mynediad a brysbennu'n rhan o'r sgwrs angenrheidiol honno yn ogystal. Wedyn, mewn gwirionedd, bydd gennym swydd well ar gyfer meddygon teulu sydd eisoes yn y system. Ond wrth gwrs, gyda 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' rydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth geisio cael mwy o hyfforddeion i ymuno â'n system yn ogystal. Felly, mae angen i ni ddiogelu'r bobl sydd eisoes yn y system a gwneud yn siŵr fod eu gwaith yn rhoi mwynhad iddynt, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n edrych tua'r dyfodol yn hytrach nag at orffennol a oedd yn bodoli ac sydd wedi ein gwasanaethu'n dda dros yr 20 neu'r 30 mlynedd diwethaf, ac ar yr un pryd, sicrhau bod gyrfa fel meddyg teulu yn yrfa ddeniadol sy'n cadw pobl yng Nghymru. Wrth gwrs, mae yna sgwrs gyffredinol i'w chael bellach gyda'r cyhoedd yn ehangach mewn perthynas â'r ffordd y mae meddygon teulu eu hunain yn cael eu hyfforddi.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cynllun 111 yn ne-orllewin Cymru oherwydd, yn amlwg, mae honno'n un ffordd o wneud dewis doeth a sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ac yn osgoi defnyddio gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn ddiangen. Ond rydym hefyd angen gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau gyda rhai pethau angenrheidiol. Fel y cyfryw, rwy'n ymwybodol fod yna heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau hyn oherwydd nad yw meddygon teulu yn barod i gymryd y practisau hynny. Yn fy ardal fy hun, Castell-nedd Port Talbot, mae pryder difrifol iawn am rai o'r sesiynau a gymerir gan feddygon teulu a'r ffaith bod prinder meddygon teulu i wneud y gwaith. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau nad ydym yn colli'r gwasanaeth hwnnw yn yr ardal? Oherwydd pan fo pobl Cwm Afan yn gorfod mynd at feddyg teulu—os byddant yn gorfod mynd i Dreforys yn y pen draw, mae'n ffordd hir iawn ac maent yn annhebygol o fynd yno ar eu pen eu hunain: maent yn ffonio am ambiwlans yn y pen draw. Nid dyna sut y dylem ei wneud. Dylem fod yn gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau yno ar eu cyfer yn lleol os oes angen.
Ie, ac rwy'n credu mai dyna'r pwynt: os oes angen, a phwy yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir. Rhan o lwyddiant 111 yw'r ffaith mai'r rhan fwyaf o'r system a gyflwynwyd yn Lloegr oedd grŵp o atebwyr galwadau anghlinigol gydag algorithm mewn gwirionedd—sgript i'w darllen. Yn aml, roedd hynny'n fwy gofalus ac yn cyfeirio pobl at adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad hynny, o reidrwydd, oedd y peth cywir i'w wneud. Yng Nghymru, rydym wedi treulio mwy o amser yn datblygu desg glinigol briodol. Felly, mae gennych feddyg teulu fel arfer, mae gennych nyrs a fferyllydd fel arfer, a bellach rydym yn cyflwyno therapydd, ac mae yna ffisiotherapydd yn aml. Felly, rydych yn cael y tîm ehangach hwnnw'n ateb yr alwad yn y lle cyntaf yn ogystal, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus. Cafwyd tystiolaeth a gwerthusiadau gan ganolfan ymchwil feddygol Prifysgol Sheffield, sy'n dangos bod cyflwyno'r 111 yma yng Nghymru wedi bod yn arfer da a bod rheswm da dros ei gyflwyno'n ehangach. Rhaid i hynny fynd ochr yn ochr â'r cadernid ychwanegol o gael y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol, gan gynnwys meddygon teulu wrth gwrs, o fewn y gwasanaeth. Rwy'n cydnabod bregusrwydd rhai rhannau o'r system yma yng Nghymru; dyna pam y bydd cael 111 yn iawn yn gwneud gwahaniaeth go iawn fel y bydd y meddygon teulu sy'n cymryd rhan eisiau parhau i staffio ein gwasanaeth y tu allan i oriau.