Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 31 Ionawr 2018.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt am ddyfodol gofal iechyd lleol. Mae'n mynd yn ôl at rai o'r cwestiynau a drafodwyd gennym yn gynharach. Mae ceisio cynnal y system gyfredol sydd gennym mewn perygl o fethu yn y dyfodol ac roedd yna neges glir iawn yn yr adolygiad i bob un ohonom ei hystyried.
Yn y Siambr hon, rydym wedi cael nifer o sgyrsiau am ddyfodol gofal iechyd lleol a sut olwg fydd arno. Rydym wedi sôn am y ffaith bod meddygon teulu yn gweithio fwyfwy mewn timau integredig. Mae llawer o feddygon teulu yn gwneud hynny eisoes ac mae rhannau eraill o'n gweithlu meddygon teulu yn dal i fod ar y daith honno. Ac wrth i ni ddysgu mwy am glystyrau a'r ddadl a gawsom yn y Siambr hon yn ddiweddar, byddwn yn dysgu mwy am yr hyn sy'n gweithio, a rhan o'r her y mae'r adolygiad Seneddol wedi'i gosod ar ein cyfer wedyn ac ar gyfer y Llywodraeth yn benodol yw: sut rydym yn galluogi hynny i ddigwydd yn fwy cyson ar draws y wlad? Sut y gallwn ledaenu dysgu a rhannu dysgu a chael llai o oddefgarwch o arferion lleol nad ydynt yn arferion da? Sut y mae gwneud y gwaith yn haws ac yn well i feddygon teulu? Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud ac mae mynediad a brysbennu'n rhan o'r sgwrs angenrheidiol honno yn ogystal. Wedyn, mewn gwirionedd, bydd gennym swydd well ar gyfer meddygon teulu sydd eisoes yn y system. Ond wrth gwrs, gyda 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' rydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth geisio cael mwy o hyfforddeion i ymuno â'n system yn ogystal. Felly, mae angen i ni ddiogelu'r bobl sydd eisoes yn y system a gwneud yn siŵr fod eu gwaith yn rhoi mwynhad iddynt, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n edrych tua'r dyfodol yn hytrach nag at orffennol a oedd yn bodoli ac sydd wedi ein gwasanaethu'n dda dros yr 20 neu'r 30 mlynedd diwethaf, ac ar yr un pryd, sicrhau bod gyrfa fel meddyg teulu yn yrfa ddeniadol sy'n cadw pobl yng Nghymru. Wrth gwrs, mae yna sgwrs gyffredinol i'w chael bellach gyda'r cyhoedd yn ehangach mewn perthynas â'r ffordd y mae meddygon teulu eu hunain yn cael eu hyfforddi.