Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 31 Ionawr 2018.
Yn y dystiolaeth a gawsom gan Trenau Arriva Cymru a Great Western Railway, clywsom am y polisïau cadarnhaol sydd ar waith eisoes. Roedd y rhain yn cynnwys y gallu i deithwyr anabl wneud cais am drafnidiaeth amgen i orsaf arall pan nad oedd yr agosaf yn hygyrch, neu er enghraifft, pan nad oedd lifftiau'n gweithio. Fodd bynnag, cawsom ein hargyhoeddi yn ein sgyrsiau gyda'r deisebwyr, sydd oll yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fynych—ac yn wir, mae llawer ohonynt yn dibynnu'n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus—o'r angen i hyrwyddo'r cymorth sydd eisoes ar gael yn well.
Mewn llawer o ffyrdd, roedd y materion a grybwyllwyd gan y deisebwyr ynghylch gwasanaethau bysiau yn debyg. Unwaith eto, clywsom am bolisïau da ond bod pryderon nad oedd y rhain i'w gweld yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiad teithwyr anabl yn y byd go iawn. Roedd rhai o'r problemau a nodwyd gan y deisebwyr yn cynnwys amharodrwydd rhai gyrwyr i ddefnyddio rampiau neu i ostwng lefel bysiau i uchder palmant, diffyg amser neu amynedd i ganiatáu i deithwyr fynd ar fysiau ac oddi arnynt yn ddiogel, a gyrwyr ddim yn stopio mewn lleoliadau addas—er enghraifft lle y ceir cyrbiau uwch. Mae'r pwyllgor yn derbyn bod y mater olaf weithiau y tu hwnt i reolaeth gyrwyr bysiau oherwydd bod cerbydau eraill yn blocio mynediad at arosfannau bysiau. Rydym hefyd yn cydnabod bod gyrwyr yn wynebu pwysau o fathau gwahanol, ac nid y lleiaf ohonynt yw cadw at amserlenni. Yn ddiweddar cafodd y materion hyn eu hystyried yn fanwl gan Bwyllgor yr Economi, Sgiliau a Seilwaith, ac mae'n amlwg eu bod yn rhwystrau sylweddol i deithwyr anabl.
Clywsom am rai enghreifftiau da hefyd o arferion hyfforddi a gyflawnwyd, gan gynnwys gan Bws Caerdydd a FirstGroup. Fodd bynnag, roeddem yn pryderu nad yw pob cwmni yn gweithredu'r un safonau drwy hyfforddiant gyrwyr, a daethom i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwneud modiwl ymwybyddiaeth anabledd penodol yn elfen orfodol o'r dystysgrif cymhwysedd proffesiynol sy'n rhaid i yrwyr sy'n gweithio yng Nghymru ei chyflawni. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac eraill a wnaethom mewn perthynas â gwasanaethau bysiau.
Yn olaf, buom yn ystyried gwasanaethau tacsi. Hyd yn hyn, pwerau cyfyngedig a fu gan y Cynulliad dros weithrediad gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat. Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli mwy o'r pwerau hyn. Cawsom ein calonogi wrth glywed am gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru'r gyfundrefn drwyddedu a chofrestru. Yn benodol, credwn y dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen i ddatblygu safonau cenedlaethol cyffredin ar gyfer yr holl dacsis a cherbydau hurio preifat. Roedd pob un o'r tystion y clywsom ganddynt o'r farn fod y drefn bresennol yn hen ffasiwn ac y dylid ymdrechu i sicrhau mwy o gysondeb ar draws y gwasanaethau.
Bwriad y pwyllgor wrth wneud yr argymhelliad hwn oedd ymateb i nifer o'r problemau a amlygwyd gan Whizz-Kidz. Roedd hi'n amlwg fod profiadau pobl o wasanaethau tacsi'n amrywio'n sylweddol ledled Cymru, a rhwng gwahanol gwmnïau a gyrwyr. Roedd rhai o'r profiadau a ddisgrifiwyd yn amlwg yn llawer is na'r safon y dylai pobl anabl fod â hawl i'w disgwyl. Roeddent yn cynnwys gyrwyr nad oeddent yn rhoi gwregys am gadeiriau olwyn mewn cerbydau, gyrwyr yn dechrau'r meter tra'n helpu teithwyr i ddod i mewn i dacsis neu tra'n cadw cymhorthion symudedd, a chwmnïau'n gwrthod cais am dacsi gan deithwyr y gwyddent eu bod yn anabl. Roeddem ni, a'r holl dystion y clywsom ganddynt, yn glir fod ymddygiad o'r fath yn annerbyniol ac mewn rhai achosion gallai fod yn torri'r gyfraith bresennol. Serch hynny, daethom i'r casgliad hefyd y byddai mwy o eglurder ynghylch y safonau gwasanaeth y mae teithwyr yn eu disgwyl yn fuddiol i deithwyr anabl ac yn wir, i bawb sy'n defnyddio tacsis.
Yn gryno, rwy'n gobeithio bod gwaith y pwyllgor ar y ddeiseb hon wedi cyfrannu at nodi pam a sut y gellid cyflawni gwelliannau go iawn i brofiad pobl anabl o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae'n iawn i ddweud na all y Cynulliad neu Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, wneud popeth y mae'n dymuno ei wneud i gyflawni system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl hygyrch. Fodd bynnag, mae llawer y gellir ei wneud i wella profiad pobl anabl yn y byd go iawn. Bydd llawer o hyn yn galw am waith partneriaeth da gyda chynghorau, gweithredwyr a phobl anabl. Bydd hefyd yn galw am arweinyddiaeth dda gan Lywodraeth Cymru. Mae ein sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion, wedi ein calonogi o ran yr ymrwymiad sy'n bodoli i wneud y gwelliannau gofynnol.