6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:46, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar fynediad at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl yng Nghymru. A gaf fi gydnabod ar y cychwyn fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a'i argymhellion wedi bod yn gadarnhaol iawn?

Cyflwynwyd y ddeiseb a arweiniodd at yr adroddiad hwn gan bobl ifanc o sefydliad Whizz-Kidz, sy'n cefnogi pobl ifanc ag anableddau, ac rwyf am ddechrau drwy dalu teyrnged i bawb a fu'n gysylltiedig am eu hymrwymiad i ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Cawsom ein helpu gan y bobl ifanc y cyfarfu'r pwyllgor â hwy, a'r rhai a roddodd eu barn i ni mewn fideo, i ddeall yn well beth yw'r heriau sy'n wynebu pobl anabl bob tro y maent yn ceisio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fyw eu bywydau bob dydd. Diolch i'r deisebwyr am roi ffocws ar y materion hyn, ac rwy'n eu llongyfarch yn gynnes am y ffordd y maent wedi hybu eu deiseb.

Mae'r ddeiseb yn galw am roi'r un hawliau i bobl anabl gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ag unrhyw un arall yng Nghymru. Disgrifiodd un o'r bobl ifanc y siaradom â hwy am ei ddyheadau yn y ffordd hon: 'Rwy'n 13 nawr, hoffwn fod fel pawb arall, mynd o gwmpas heb ddweud wrth rywun 20 gwaith, fel y gallwn gyrraedd i lle rwy'n mynd a dod yn ôl heb unrhyw broblemau.'

Yn eu tystiolaeth i ni, amlinellodd y deisebwyr eu profiadau gydag amrywiaeth o fathau o drafnidiaeth gyhoeddus, a chrybwyllwyd nifer fawr o faterion. Roedd y rhain yn cynnwys anawsterau wrth deithio ar fyr rybudd neu pan nad yw'n bosibl gofyn am gymorth ymlaen llaw, a seilwaith gwael, a all atal pobl rhag teithio o gwbl. Hefyd, roedd diffyg cefnogaeth gan rai aelodau o staff, sy'n gallu gwneud i bobl deimlo'n agored i niwed neu'n feichus. Clywodd y pwyllgor y gall y problemau hyn ei gwneud yn anos i bobl fanteisio ar gyfleoedd addysg a chyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol. Gall hyn effeithio'n fawr ar annibyniaeth, hyder a hunan-barch pobl. Soniodd nifer o'r deisebwyr eu bod eisiau gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gais, heb orfod trefnu beth amser ymlaen llaw. Roeddent eisiau gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen arnynt, yr un peth â'u ffrindiau nad ydynt yn anabl.

Mae'r deisebwyr wedi disgrifio eu profiadau o ddefnyddio trenau, bysiau a thacsis. O ganlyniad, cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth gyda sefydliadau sy'n ymwneud â darparu'r mathau hyn o drafnidiaeth cyhoeddus. Hoffem ddiolch i bawb am y dystiolaeth a ddarparwyd ganddynt. Mae manylion llawn am y gwaith hwn wedi ei gynnwys yn ein hadroddiad wrth gwrs. Ar ôl clywed y dystiolaeth hon, rydym wedi gwneud 12 o argymhellion. Ni fydd amser yn caniatáu imi siarad am bob un o'r rhain heddiw. Fodd bynnag, digon yw dweud ein bod wedi dod i'r casgliad fod angen gwelliannau ar draws pob math o drafnidiaeth gyhoeddus, a hoffwn dynnu sylw at rai o'n prif argymhellion.

Mewn perthynas â gwasanaethau rheilffyrdd, credwn fod angen gwelliannau i orsafoedd, trenau a'r cymorth a ddarperir gan staff. Yn ein hadroddiad, rydym yn cydnabod bod elfennau o hyn heb eu datganoli neu wrthi'n cael eu datganoli. Serch hynny, mae'n amlwg fod llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ac rwyf am dynnu sylw yn benodol at y cyfle sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd drwy'r broses o ddyfarnu masnachfraint reilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau. Mae yna botensial i sicrhau bod cytundeb y fasnachfraint nesaf yn cynnwys gofynion ar gyfer gwneud gwelliannau sylweddol i hygyrchedd gwasanaethau rheilffyrdd, gwelliannau a fyddai o fudd i bobl ledled Cymru. Mae'r Pwyllgor Deisebau hefyd wedi argymell y dylai hygyrchedd gael ei gynnwys fel mesur perfformiad yn y fasnachfraint nesaf, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhellion ar hyn.