Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 31 Ionawr 2018.
Mae'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau gan Whizz-Kidz yn galw'n briodol am i bobl anabl gael yr hawl i fynediad llawn at drafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen—galwad a glywais yn gyntaf oddeutu 15 mlynedd yn ôl ar y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, rhywbeth y mae pawb ohonom yn ein tro wedi ei gefnogi, ac eto, dyma ni.
Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ei fod yn edrych ymlaen
'at weithio gyda'r sector trafnidiaeth gyhoeddus, ein hawdurdodau lleol ac yn bwysicach na dim, pobl anabl a phobl hŷn, a hynny er mwyn ymdrechu o'r newydd i weddnewid ein system trafnidiaeth gyhoeddus a chreu rhwydwaith cynhwysol a hygyrch'.
Ac amen i hynny, wrth gwrs. Fodd bynnag, wrth dderbyn argymhellion y Pwyllgor Deisebau, mae llawer o'i ymateb wedyn yn gyfystyr â dweud 'gan bwyll bach'.
Ar argymhelliad 1, mae'n derbyn hynny, ond wedyn mae'n mynd rhagddo i ddweud
'Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i annog gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i fabwysiadu'r cynllun "waled oren"' ar gyfer defnyddwyr bysiau a rheilffyrdd ar draws Cymru. Felly, mewn gwirionedd mae'n gyfystyr ag argymhelliad i barhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud. Roedd yr argymhelliad hwnnw hefyd yn cynnwys galwadau arno i
'ymchwilio i ba mor ymarferol yw ei ddefnyddio mewn tacsis a cherbydau hurio preifat.'
Nid oes unrhyw gyfeiriad at hynny o gwbl yn ei dderbyniad o'r argymhelliad y methodd fynd i'r afael ag ef wedyn. Ac mae hyn yn arbennig o bwysig, o gofio canfyddiadau adroddiad Anabledd Cymru fis Hydref diwethaf, fel yr adroddodd BBC Cymru, fod rhai gwasanaethau tacsi yng Nghymru yn gwrthod codi teithwyr sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu gŵn cymorth, gan eu gadael yn ddiymgeledd ac wedi'u bychanu. Galwodd Anabledd Cymru bryd hynny ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r deddfau yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl.
Mae'n derbyn argymhelliad 3, sy'n galw am weithio gyda chwmnïau trenau
'i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i deithwyr anabl'.
Unwaith eto, swm a sylwedd ei ymateb yw:
'Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd er mwyn gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i deithwyr.'
Ble mae'r newid mawr sydd ei angen? Mae'n derbyn argymhelliad 6 ar fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, gan ddweud yn gywir fod
'Diffyg hyfforddiant addas i staff rheng flaen yn y sector trafnidiaeth yn rhwystr wrth ddefnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.'
A dywed:
'Byddwn yn gweithio gyda grwpiau diddordeb a'r gweithredwyr er mwyn datblygu'r hyfforddiant'.
Ond mae hyn yn osgoi'r mater allweddol o bwy felly fydd yn darparu'r hyfforddiant hwnnw.
Mae argymhelliad 11 yn dweud:
'Dylai'r safonau cenedlaethol cyffredin i'w datblygu gan Lywodraeth Cymru gynnwys gofyniad i bob gyrrwr yng Nghymru gwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd cyffredinol'.
O dderbyn hynny, mae'n dweud:
'Disgwylir y bydd awdurdodau trwyddedu lleol yn sicrhau bod yr holl yrwyr sy'n gweithio yn eu hardaloedd yn cael yr hyfforddiant a roddir gan Lywodraeth Cymru.'
Fel y dywedais ar Good Morning Wales fore Sadwrn diwethaf, i'r rhai ohonoch sy'n effro'n gynnar, wrth fabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, wrth ddileu'r rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb, nid oes unrhyw werth mewn gyrru pobl ar gyrsiau hyfforddi gydag ymgynghorwyr allanol neu gyrsiau hyfforddi'r Llywodraeth, neu gyrsiau hyfforddi a ddarperir gan eich rheolwr llinell. Os yw pobl yn mynd i ddatblygu ymwybyddiaeth go iawn o anabledd, rhaid iddynt gael yr hyfforddiant hwnnw gan yr arbenigwyr, a'r unig arbenigwyr yn y maes hwn yw pobl anabl eu hunain.
Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi dweud:
Credwn fod hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd i staff trafnidiaeth ym mhob sector yn hollbwysig ac y dylai hyfforddiant o'r fath gynnwys ymwybyddiaeth sylfaenol o fyddardod.
Ar lefel bersonol, buaswn yn cefnogi hynny wrth gwrs, ond rhaid i hynny gynnwys pobl sydd â nam ar eu clyw eu hunain. Ar ôl i etholwr a ffrind sy'n byw yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wynebu problemau ar daith Virgin Trains—etholwr a ffrind sydd ar y sbectrwm awtistiaeth—fe edrychais ar ei achos, a'r canlyniad cadarnhaol yw fy mod yn mynd ag ef fis nesaf i academi dalent Virgin Trains yng ngorsaf Crewe iddo ddarparu sesiwn hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o awtistiaeth i'w staff. Dyna'r ffordd y dylem fod yn symud ymlaen.
Fel y mae'r elusen Cŵn Tywys yn ei ddweud, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i wneud pob bws yn hygyrch i bobl â nam ar ei golwg neu eu clyw.
Maent yn canmol Llywodraeth Cymru ar fod y Llywodraeth gyntaf i fynnu bod gweithredwyr yn gosod cyfarpar cyhoeddiadau clyweledol stop nesaf, ond maent wedi gofyn i mi ofyn i chi a oes unrhyw gynlluniau i ymgynghori â Llywodraeth y DU er mwyn cyflwyno rheoliadau a chanllawiau cyffredin ar draws y ddwy wlad, gan fod gan lawer o weithredwyr bysiau wreiddiau sy'n gweithredu ledled Cymru a Lloegr, ac wrth gwrs, byddai methu gwneud hynny'n creu rhagor o rwystrau i bobl sydd wedi colli'u golwg.
Mae amser yn brin. Rydym wedi cael deddfwriaeth ar ôl deddfwriaeth, deddfwriaeth dda, yn llawn bwriadau da sydd i fod i ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau gyda phobl yn hytrach nag ar eu cyfer ac iddynt, ac eto clywn straeon arswyd am wrthod mynediad o hyd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn at y llwybr arfordirol yn Sir y Fflint, a chymuned y bobl fyddar yng Nghonwy yn gorfod mynd at yr ombwdsmon wedi i'r cyngor ddadgomisiynu eu gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain ar ôl y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant; ac er gwaethaf Deddf Cydraddoldeb 2010. Dewch wir, mae angen inni gael newid mawr. Mae 15 mlynedd i mi yma o aros am y newid mawr yn rhy hir i aros ac mae ddegawdau'n rhy hir i bobl sydd â namau corfforol ledled Cymru.